Cerddi'r Bugail/Gorffen Crwydro
Gwedd
| ← Y Blotyn Du | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Gwenfron a Mi → |
GORFFEN CRWYDRO
CERAIST ti grwydro gwledydd pellennig,—
Y gwledydd sy 'mhell tros y don;
Weithiau dychwelit i'th gartre mynyddig
A'th galon yn ysgafn a llon.
Gwelsom di ennyd cyn dychwel ohonot
I'r rhyfel sy'n crynu y byd;
Nodau y gwlatgar a'r beiddgar oedd ynot,
Y nodau sy'n costio mor ddrud.
Fe chwyth y corwynt tros fryniau Trawsfynydd
O'th ôl fel yn athrist ei gainc;
Tithau yng nghwmni'r fataliwn ddi-hysbydd
Sy'n cysgu'n ddi-freuddwyd yn Ffrainc.