Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bugail/Griff Llewelyn

Oddi ar Wicidestun
Beddrod Dafydd Cerddi'r Bugail

gan Hedd Wyn


golygwyd gan John James Williams
Nid a'n Ango

Griff Llewelyn

Y llynedd mi welais Griffith Llewelyn,
Ei lygaid yn lasliw, ei wallt yn felyn.

Yn ei olwg lednais a'i dremiad tawel
'Roedd nodau ei deulu, a golau'r capel.

Ond heddiw mae'i deulu o dan y cymyl,
Ac yntau yn huno yn sŵn y megnyl.

Caethiwa di, Arglwydd, ddwylo y gelyn
Darawodd un annwyl fel Griff Llewelyn.


Nodiadau

[golygu]