Cerddi'r Bugail/Gwas Diwyd
Gwedd
| ← Cwympo Blaenor | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Beddrod Dafydd → |
Gwas Diwyd
Oes dawel y gwas diwyd—a dreuliodd
Yn drylwyr trwy'i fywyd;
A'i oes fer eto sieryd
O gloriau bedd ar glyw'r byd.
Os yma cafwyd siomiant,—ei enaid
Yn rhinwedd yr Haeddiant
Drwy nos ing aeth adre'n sant
I Ganaan y gogoniant.