Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bugail/Gwennie

Oddi ar Wicidestun
← Plant Trawsfynydd, 1915 Cerddi'r Bugail

gan Hedd Wyn


golygwyd gan John James Williams
Jennie →

BLODAU COFFA

Gwennie

GWYNNACH oedd bywyd Gwennie—na'r ewyn
Chwaraea uwch dyfnlli,
Neu'r annwyl flodau rheini
Oedd ar ei harch dderw hi.

Heb ball caiff rodio bellach—hyd heulog
Ardaloedd di-rwgnach;
Mae nef wen yn amgenach
Na helynt byd i blant bach.


Nodiadau

[golygu]