Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bugail/Gwladgarwch

Oddi ar Wicidestun
Ein Gwlad Cerddi'r Bugail

gan Hedd Wyn


golygwyd gan John James Williams
Wedi'r Frwydr

GWLADGARWCH


I
ONID tydi sydd yn glaf o gariad
At draddodiadau dy ffin?
Onid yw breuddwyd a hewyd dy henwlad
Fyth yn ddigwmwl yng nglesni dy lygad
A'i hawliau'n fflam ar dy fin?

Ti yw lladmerydd ei swyn a'i hunaniaeth
Yn wyneb y llydan fyd;
Dy gleddyf a werchyd ei hannibyniaeth;
A thry dy freuddwydion oll yn arwriaeth
Wrth ei hallorau o hyd.

II
Sefais yn oedfa ddilafar y delwau
Un nawnddydd ar lawnt y dref,
A gelwais i gof rai grwydrodd y ffiniau,
A thithau yn farwor ar eu gwefusau
Pan godent eu gwlatgar lef.

A chlywais wrth gerdded dy fyd hynafol
Lawer hen faled a chân
Anesid dan angerdd dy chwýth berorol,
Sgrifennwyd ar alwad y nwyd anfarwol
Lefarai o'th golofn dân.


A gwelais wrth gerdded mwsog dy lwybrau
Gestyll henllwyd a phrudd,
A'r hen dywysogion drengodd ym mrwydrau
Yno yn codi o angof eu beddau
Yn fanadl a llygaid dydd.

Dyma'r rhai garodd eu henfro a'i hawliau,—
Wylasant yn nydd ei cham;
Mi wn mai tydi oedd tân eu gwythiennau
A gwn mai tydi arweiniodd eu camrau
I'w beddau tros wlad eu mam.

III
Chwerddi pan weli dy ffiniau'n ddigymyl
Fel gorwel bryd hafaidd nos;
Eithr gelwi feirch a gwisgi sendyl
Pan weli o'r pellter aneliad megnyl
At wynbyrth dy henwlad ros.

Yn nydd drycinoedd 'rwyt ti ar y glannau
A'th drem tros y dyfnder gwyrdd;
O'th ôl mae hendre'th anwyliaid a'th dadau,
O'th flaen rhwng tywyll a gwawl ar y tonnau
Mae llynges gelynion fyrdd.

Un dydd tymhestlog mi'th glywais yn gweiddi
Ar liaws dy wlad i'r drin;
Gwelais di'n fflam yn eu llygaid a'u gwythi,
Ac athrist fu gweled gwedi'r cymhelri
Eu gwaed yn rhuddo y ffin.


Gwelais di wedyn yn cerdded dan wylo
Yn oriau yr adfyd hir,
A gofid ac afar a dellni'th henfro
Yn llifo fwy fwy gan ormes yr allfro
Fel niwl tros ryw ddiffrwyth dir.

IV
Di, gryf wyliedydd, bryd drycin gelynion
Ar lanw gofid dy dud,
Pwy ond tydi sy'n breuddwydio breuddwydion,
A phwy ond tydi wêl henfro dy galon
Eto yn obaith pob hud?

A chlywir dy lef anorthrech yn torri
O byrth y bannau ar mŷr
I alw ar genedl o'i dur gadwyni,
I alw d' anwylyd o'i nos a'i dellni,
I oed â'r bore a'r fflur.

"Ein Gwlad a'n Cenedl" mewn brodwaith o arian
Sydd ar dy faneri di;
A'r nwyd cenelig yn sŵn dy ymdeithgan
Yn deffro gan ado ei gwae ai griddfan
Am ryddid a gloywach bri.

Lleferi yn glir o'r senedd a'r llwyfan
A'n heisiau'n dân ar dy fant;
Cans onid tydi yw'n tafod o arian,
Ac onid tydi a ery yn darian
Dros freiniau dy wlad a'i phlant?


Mae ysgol a choleg y ffordd y tramwyi
A gwawrddydd yn ôl dy droed,
A chenedl ffyddlon i'w henaid yn codi
Ac annibyniaeth yn ei gwythienni
I gyfwrdd ei santaidd oed.

V
Ceni dy delyn am na elli beidio,
Delynor gobaith dy dud;
Ceni hen gerddi galarus ei hatgo,
Ceni berlesmair breuddwydiol ei deffro
A'r glybod y llydan fyd.

Llunni delyneg tan dderw y mynydd
A'i geiriau i gyd yn dân;
Cans onid dy gariad yw bro a nentydd,
Defodau a hawliau dy wlad ddihenydd,
Ac erddynt ceni dy gân.

Gelwi dy genedl a'r haul ar y bryniau
I'r 'Steddfod ben bore glân;
A thry pob enaid ym miwsig y tannau
A swyn anfarwol yr hen draddodiadau
Yn fôr o undeb a chân.


Eto mae galwad gwladgarwch i'r trinoedd
Fel yn y dyddiau a fu;
Mae'n alwad yn enw Prydain a'i nerthoedd,
Mae'n alwad yn enw Arglwydd y Lluoedd,
O'i loyw uchelder fry.

Ac wedi yr elo yr heldrin heibio
Fe ddeffry'r digwmwl ddydd;
Hyd hyn, O Arglwydd, dod lwydd ar ein heiddo
A chadwn gwladgarwch yn fflam ddiwywo
Hyd oni ddelom yn rhydd.


Nodiadau

[golygu]