Cerddi'r Bugail/I Wyneb y Ddrycin
Gwedd
| ← Oedfa Hud | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Claddu Mam → |
I WYNEB Y DDRYCIN
Af allan i wyneb y ddrycin
I grwydro hyd lethrau y bryn;
Disgynned y glaw ar fy nillad,
A chaned y gwynt fel y myn.
Af allan i wyneb y ddrycin,
'Does undyn yn unman a'm clyw;
'Does neb am oleuo fy llwybyr
Ond y mellt yn ehangder Duw.
Af allan i wyneb y ddrycin
Hyd erwau y ddafad a'r oen;
Griddfanned y storm ar fynyddoedd
Fel darn o ogoniant poen.
Gorwyntoedd gwallgof y bryniau
Sy'n canu telynau o frwyn,
O cludwch, o cludwch fy ngriddfan
At rywun a wrendy fy nghŵyn.
.. . .
Pan gaeo fy llygaid wrth farw
Goleued y mellt draws y glyn,
Disgynned y glaw ar fynyddoedd
A chaned y gwynt fel y myn.