Cerddi'r Bugail/Jennie
Gwedd
| ← Gwennie | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Marw un Fach → |
Jennie
Un ddilychwin oedd Jennie,—un ddiwyd,
Addawol, lawn tlysni;
A gwanwyn gwyrdd digyni
Heb liw nos oedd o'i blaen hi.
Ond Iesu'r ffrynd dewisol—a'i galwodd
I'r golau tragwyddol;
Mwy o'r ddaear ar ei hól
Nofia hiraeth anfarwol.