Cerddi'r Bugail/Marw Oddi Cartref
Gwedd
| ← Yr Antur Olaf | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Ein Gwlad → |
MARW ODDI CARTREF
MAE beddrod ei fam yn Nhrawsfynydd,
Cynefin y gwynt a'r glaw,
Ac yntau ynghwsg ar obennydd.
Ym mynwent yr estron draw.
Bu fyw ag addfwynder a chariad
Yn llanw'i galon ddi-frad;
Bu farw a serch yn ei lygad
Ar allor rhyddid ei wlad.
Bu farw a'r byd yn ei drafferth
Yng nghanol y rhyfel mawr:
Bu farw mor ifanc a phrydferth
A chwmwl yn nwylo'r wawr.
Breuddwydiodd am fywyd di-waew
A'i obaith i gyd yn wyn;
Mor galed, mor anodd oedd marw
Mor ifanc, mor dlws â hyn.
Ni ddaw gyda'r hafau melynion
Byth mwy i'w ardal am dro;
Cans mynwent sy'n nhiroedd yr estron
Ac yntau ynghwsg yn ei gro.
Ac weithian yn erw y marw
Caed yntau huno mewn hedd;
Boed adain y nef dros ei weddw,
A dail a rhos dros ei fedd.