Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bugail/Marw yn Ieuanc

Oddi ar Wicidestun
Glannau'r Lli Cerddi'r Bugail

gan Hedd Wyn


golygwyd gan John James Williams
Blodwen

MARW YN IEUANC

BU farw yn ieuanc, a'r hafddydd
Yn crwydro ar ddôl, ac ar fryn;
Aeth ymaith i'r tiroedd tragywydd
Fel deilen ar wyntoedd y glyn.

Hi garodd gynefin bugeiliaid
A chwmni'r mynyddoedd mawr;
A llanw meddyliau ei henaid
Wnâi miwsig yr awel a'r wawr.

Bu fyw yn ddirodres a thawel,
Yn brydferth, yn bur, ac yn lân;
Ac eto mor syml a'r awel
Sy'n canu trwy'r cymoedd ei chân.

Fe'i magwyd ym murmur y nentydd
Ar fryniau diarffordd Twr Maen;
Nid rhyfedd i'w bywyd ysblennydd
Flaguro mor bur a di-staen.

Mor ddiwyd oedd hi gyda'i gorchwyl,
Mor drylwyr cyflawnai ei gwaith,—
'Roedd delw gonestrwydd di-noswyl
Yn llanw ei bywyd di-graith;


Bu farw yn nyddiau ieuenctid
A'i heinioes ar hanner ei byw;
Bu farw a'r haf yn ei bywyd,
Bu farw yn blentyn i Dduw.

Fe'i gwelsom hi'n gwywo i'r beddrod
A'i haul tros y ffin yn pellhau;
A hithau, y Nefoedd ddi-ddarfod,
I'w chyfwrdd i'r glyn yn nesáu.

Daw atgof ei bywyd a'i geiriau
Yn ôl i'n calonnau fel cynt,
Fel arogl mil myrdd o liliau,
Fel miwsig perorol o glychau
Y nefoedd, ar lanw y gwynt.


Nodiadau

[golygu]