Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bugail/Mewn Album

Oddi ar Wicidestun
Rhyfel Cerddi'r Bugail

gan Hedd Wyn


golygwyd gan John James Williams
Telyn Fud

MEWN ALBUM

CERDDA rhai adwaenom heno
Ewrop bell ddi-gainc,
Lle mae dafnau gwaed ar fentyll
Prydain Fawr a Ffrainc.

Cysga eraill a adwaenom
Yn y fynwent brudd;
Lle mae'r awel fyth yn wylo,
Wylo nos a dydd.

Troeog iawn yw llwybrau bywyd
Megis gwynt yr hwyr;
Pa le'n cludir ninnau ganddo,
Duw yn unig ŵyr.


Nodiadau

[golygu]