Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bugail/Myfi Yw

Oddi ar Wicidestun
Cyfrinach Duw Cerddi'r Bugail

gan Hedd Wyn


golygwyd gan John James Williams
Fy Ngwynfa Goll

MYFI YW

I Y Llais Cyfareddol
NEITHIWYR, a'r ddrycin ar lethrau y mynydd,
Mi welwn ei fantell fel ridens tarth;
A chlyw—wn guriad ei galon aflonydd
Yng nghryndod anorffwys tonnau Iwerydd
A chyhwrdd fforestydd briglwyd y parth.

Ac eilwaith y'i gwelais rhwng rhwydi manddail
Oriau Gorffennaf yn nhoniad y gwair;
Gwrandewais ei lais ym maled y gwiail,
A gwelais ei lun yn crynu yn fiwail
Ar y deigr ambrosia ym Mentyll Mair.

A chlywais wedyn ei islais fel soned
Yng nghangell borffor yr ŷd yn y nawn;
Mynych y chwarddodd fy enaid o'i glywed,
Yng ngerddi'r ffion a môr y fioled —
Bôr eglwys berorol y tonnog rawn.

Oriau yr hafau yn llewych yr hinon,
Fe'i clywais yn suo yn dlws, "Myfi yw;"
Gwedyn fe'i gwelais ar encil faith greulon
Am decach gwledydd tros y moroedd gleision,
O'i ôl ni adawodd ond crinddail gwyw


Pand dieithr a mud im henaid a 'mhoenau
Yw Arglwydd y fforest, y lli, a'r maes?
Annirnad a dwfn yw cerddi ei gorau
Anneall a phell yw gweddi i breladau
Pan grymant o'i flaen yn eu gwisgoedd llaes.

Di, Unben y cread a'r oed hudolus,
Sydd yn y pellter anghyffwrdd yn byw,
Dyred i gymun â'm calon ystormus,
Dyred a dwed wrth fy enaid blinderus,—
Nac ofna di, alltud trist,—"Myfi Yw".

II Llais y Brawd
Un dydd, yn y ddrycin, roedd llafar rhyw broffwyd
Yn crynu o lwydni'r parthau di-glod,
Diasbad ei hirllais anorthrech glywyd
Yn dyfod tros lawer i hendre friglwyd,
Fel llef un yn llefain: "Mae'n dod, Mae'n dod".

Yna rhywelais ddyffrynnoedd a bryniau
I gyfwrdd yr hwn a geisiais gyhyd;
Cans gwelais ei drem trwy fwg yr allorau,
Fei clywais yn dod yn sŵn y caniadau,
A ganodd proffwydi y cynnar fyd.

Fy myfyr oedd orlawn o'r drud orawen
A gaffwn pan gwrddwn âr Unben claer,
Fe'i gwelwn yn dod â thanllyd deyrnwialen,
Mewn mantell rosliw â bordor o heulwen
A chanddo dalaith o emrald ac aur.


Pand harddwych a fydd, meddai fenaid gwallgo,
Cans hardd ydoedd gynt ym myfyr y byd?
Gwelais ei degwch mewn lili yn huno,
A'i fawredd anghyffwrdd ar Seinai'n fflamio:
Pan ddêl i deyrnasu, pwy ddeil ei hud?

Un hwyrnos Nadolig tan ruthr y gwyntoedd,
A'r wenlloer fel sidyll risiant uwchben,
Mi glywais gywraint ganu y Nefoedd,
A gwelais Ei Seren Ef ar y nennoedd,
A'r oed dragwyddol yn codi'r llen.

Minnau ni welais ond baban ym mreichiau
Rhyw forwyn yn huno fel angel byw,
Ond gwaeth am fy siom roedd purdeb ei ruddiau,
A'i degwch sant yn torri trwym nwydau
Fel murmur di-lef gan ddweud — "Myfi Yw".

III Cyffes y Diddanydd
Bu fenaid yn rhwyfo moroedd terfysglyd,
A'm hysbryd digartref ar afrad hynt,
Ac nid oedd a lonnai mhruddaidd ddyhewyd,
Ac ni ddoi hyd ataf eithr niwl ac adfyd,
Gan ymson am bellter di-gariad a gwynt.

A gwelwn rai eraill fel finnau yn hwylio,
Ac ewyn y môr a'r storm yn eu gwallt,
A chlyw-wn isleisiau y tonnau'n wylo
A chlyw-wn afar y ddrycin yn rhuo
Yn nodau eu bywyd cyfeiliorn hallt.


A gwelwn ar lu o benrhynnau duon
Dorf o rai tlodion prydwelw a llesg;
Roedd llewych y storm yn eu llygaid llwydion,
A chrynai o'u parabl ofid digalon,
Fel wylo a griddfan gwynt yn yr hesg.

Ddued y gwelwn i ddaear a nefoedd,
A dued oedd lliw calonnau y byd!
Crwydrai anobaith a phechod yr oesoedd
Fel gwynt digartref ar wyneb y dyfroedd,
A lludw'r allorau ar ei adain ddrud.

Tebygai fy hwyliau i niwl y bryniau
Pan blyco tan gyhwrdd y gwynt yn ddellt;
Fy enaid clwyfus yn holi am lannau,
A churai fy ngwaed gyfeiliant fy ofnau
Yn llewych adanedd tyrfa o fellt.

A'm gweddi yn codi fel gwaedd y dyfnder
I rywle at rywun a welswn gynt,
Mi glyw-wn y storm yn lleddfu'i chreulonder,
A'r don yn gado'i chynddaredd goriander,
Ac islais rhywun yn dod ar y gwynt.

A gwelwn yn dod rhwng ffluwch y gwendonnau,
Rywun ag eurol sant gylch ei ben;
Yng nglas ei lygaid roedd gwawr a heulwenau
A chlyw-wn ym melys ddistyll ei eiriau
Ysgawnllais llateion y loywach nen.


"Pwy ydyw yr hwn syn tewi tymhestloedd?"
Gofynnai fy ofnau o'r tonnau fil,
Yr hwn a oleuodd wyneb y nefoedd?
Ar hwn a dawelodd ysbryd y moroedd,
A gofid a gwae diddechrau fy hil?

Yna tros wefus y gŵr gerddai'r tonnau
Y torrodd melyslef bêr ar fy nghlyw,—
A glywaist ti sôn ddod brenin ir ffiniau
Gan alw y byd tua'i deyrnas ddiwaeau—
Ac weithian, fordwywr llesg,—"Myfi Yw".

IV Y Gyffes Ddrud
Rhyw undydd hyfryd a gwrid yr heulwenau
Yn chwerthin or palmwydd pell i'r ystryd;
Gwelwn yng nghysgod y coed pomgranadau
Dyrfa niferus, wallgofus, ddiwenau,
Ai phechod fel hydre bloesg lond y byd.

Ac yna clywais y dyrfa yn rhegi
Rhyw Athro dieithr oedd ar ei hynt
Yn crwydro henfro'r tadau gan dorri
Ffurf a Sagrafen yr. hen Deml uchelfri;
Ai ymdaith trwy bobman fel storm o wynt.

"Honnodd ei hun yn Etifedd yr Arglwydd,
Honnodd ei hunan yn frenin y dud"
Ac yna ni chlyw—wn namyn distawrwydd
Ar dyrfa yn tramwy is yr olewydd,
I geisio'r ymhonnwr âr wefus hud.


A gwelwn yno trwy'r llewych eurad
Dremyn prydwelw rhyw groes ar y bryn,
Ac uchod roedd cwmwl gwynlliw ac irad
Fel mantell rwyg rhyw henoed ofleiriad
Ddiflannodd cyn dyfod or dyddiau hyn.

Ym minion yr Ardd maer dyrfa yn oedi
A sibrwd y dail yn dod ar ei chlyw,
Yno fei clywais am rywun yn holi,
A gwelwn fy Athro'n dod tuag ati
Yn ŵr gofidus gan ddweud,— "Myfi Yw".

Gwedyn fei gwelais ar grog wedi oeri
Ai hirwallt chwyf tros ei wyneb oer, gwyw.
Yr awel alarus yn crwydror twyni
Fel pe yn sôn am Feseia'r proffwydi,
Ond welwed y min fu'n dweud,— "Myfi Yw".

V Y Llais Cyfrin
Un hwyrddydd unig ni grwydrem yn irad
Rhwng golau a gwyll hyd y ffordd i Emmaus,
Gan wylo am farw y proffwyd aurlygad,
Ac uchod roedd coed y pîn ar pomgranad
Fel offeiriaid mewn gwisgoedd duon llaes.

Ac yno cwrddasom ddieithr ymdeithydd,
Ddaeth heibio o rywle o gwr y ffin,
Cans tebyg ei drem i ŵr wnaethai drywydd
I'r fro tros lawer i ddyffryn a mynydd
Oni ddaliodd yr hwyr ei gamre blin.


Minnau ai dygais ef weithian i lety,
Oni thorrai'r wawr i loywi ei hynt;
Ac yno er prudded yr oed ddiganu
Cadwasom Sagrafen yn atgo'r Iesu,
Fel y gwnaethom yn nyddiau ei fywyd gynt.

Ond gydar dieithrddyn ciliodd ein hofnau,
Cans ynddo ni welsom yr Iesu'n fyw;
Ac onid oedd tân y Crist i'w frawddegau,
Ac oni chlywsom ei ysbryd di-eiriau
Ar doriad y bara'n dweud,—"Myfi Yw?"

VI Y Llef Ddihenydd
Rhyw ddiwrnod fe syllodd fy enaid ar ddarlun
Ieuengwr dienw ar oriel dlos;
I'w lygaid roedd pryder nosau digyntun,
A thebyg oedd agwedd ei hirwallt melyn
I ydfaes aeddfed tan wyntoedd y nos.

O'i flaen roedd nìwloedd a gwae yn encilio,
O'i ôl y wawrddydd yn torri ymhell;
Ac meddai fy nghalon wrth edrych arno:
Dyma Brometheus ofnadwy rhyw chwyldro,
Arweinydd crwsâd y goleuni gwell.

O'i amgylch mi welwn ysbryd marwolaeth
Yn deffro fel hesg tan gyffwrdd y gwynt,
Ac meddai fy nghalon bŵl ei dirnadaeth:
Pand hwn ydyw Orpheus y bell chwedloniaeth
A ddofai bob nwyd gydai delyn gynt?


O tan ei draed gwelwn gelain yr angau
A'i fwa toredig am byth yn fud;
Ar golau o bell yn chwerthin ar ddarnau
Ysgyrion a rhycllyd yr hen gadwynau
Gadwodd y ddaear yng ngharchar gyhyd.

O'i ôl gwelwn dyrfa addolgar yn esgyn
O dir yr anghymod ar ddrycin lem;
A blaen y wawr ar eu mentyll yn disgyn,
Tramwyent hyd lwybraur arwr gwallt—felyn
I dir rhyw ddadeni dwyfol ei drem.

Mae trem y darlun yn dilyn fy ysbryd
Fyth er y'i gwelais yng nghrog ar y mur;
Daw ataf pan gân y seintiau am wynfyd,
Daw ataf i alw fy enaid oi adfyd,
Daw ataf ar liant y da a'r pur.

Pan gofiwyf am Nefoedd fei gwelaf yno
A'i drem garedig yn faddau i gyd;
Ac nid oes i'm fywyd yn unman hebddo,
Cans gwn fod ei gymun sant yn cyflwyno
I'm henaid fara'r anfarwol fyd.

Tariannaf fy hun âi degwch hirfelyn,
Tariannaf fy mron gydar wyneb pur;
Ac ni all angau na gofid fy nghanlyn,
Cans bywyd anfarwol oedd yn y darlun
Welais i gynnau ynghrog ar y mur.


Nawnddydd arall wrth finion y darlun
Fe waeddais fel rhywun: Fy Arglwydd am Duw!
Pan welais ar ymyl ei wisgoedd claerwyn
Diferynnau rhuddgoch o waed yn disgyn,—
Y gwaed syn llefaru fyth,—"Myfi Yw".


Nodiadau

[golygu]