Cerddi'r Bugail/Nos Olau Leuad
Gwedd
| ← Yr Haf | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Adfeilion Hen Eglwys → |
NOS OLAU LEUAD
WELE y dlos leuad lân—yn dyfod
O'i hystafell weithian;
A chwery ei braich arian
Am yddfau cymylau mân.
O lys y wawr pa olau syn—yw hwn?
Mor ddi-dannau'r dyffryn!
P'le mae ffel seiniau telyn
Adar hoff y doldir hyn?