Cerddi'r Bugail/Nos o Ragfyr
Gwedd
| ← Y Nadolig | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Llyn Rhuthlyn → |
NOS O RAGFYR
HENO, cwsg, dlws ieuanc oed; oer yw gwaedd
Arw'r gwynt o'r dergoed;
Cwsg dan nen fy mwth henoed,
Cwsg, cwsg nes tawela'r coed.
Heno clyw gri aflonydd—o leddf ing
Ymladdfeydd fforestydd;
Huawdl sain y dymestl sydd
Fel alltud ar foel elltydd.
Hyd yr êl heibio'r helynt
Yn dy gwsg cei wrandaw gwynt
Gwyna tros faes a gwaneg
Ail mun friw ar lomwaun freg.