Cerddi'r Bugail/Oedfa Hud
| ← Gwenfron a Mi | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
I Wyneb y Ddrycin → |
OEDFA HUD
TROS waun a gallt yn alltud
Y nos aeth fel teyrnas hud;
Ac fel breuddwyd, rhyw lwyd lain
Oeda ar lawnt y dwyrain.
Y sêr o'r wybrennau syn—a droant
Gyda'r ieuanc dywyn;
 eu mil lliwiau melyn,
Fanllu aur, o ddwfn y llyn.
O hud gwawl â hediaid gwyll
I'w hendref mewn main candryll.
O'i dŵr ba nos aderyn
Ofwya'r gwawl fore gwyn?
Cwsg yn brudd, a'r wawr ruddaur
Wthia'r nos â'i tharian aur.
Bore fel bwa arian
Gorona bell gern y ban;
Tybiais fod melfin ffiniau
Y deyrnas hud ar nesáu,
Gan dlysed a hardded oedd
Hyd erwau'r ucheldiroedd.
Unlliw i mi Fentyll Mair
A dysglau o win disglair;
Tua'r trist gyfddydd distaw
Deuai'r haul dros fryniau draw;
Mwyn ei wedd, uwch mynyddoedd
Eryr aur yr awyr oedd;
Y nen drôi o'i hynod wrid
Yn ororau mererid;
Hudol pob cwmwl gloywdeg
Unlliw tud o emrallt teg.
Swil, unig, bell, las lynnoedd—a loywai
Dan lewych y nefoedd;
Gwaed y wawr drwy'u llygaid oedd,
A'u hewynnau fel gwinoedd.
I'r awel fore melyn
O wele glws niwl y glyn,
Fel adfail eursail wersyll
Tylwythau gêl hudlath gwyll.
Ha! ddifyr goedd fore gwyn,
Is yr awyr oes rhywun
Wylai pan byddo melyn
Firagl haul ar ddwfr y glyn?
Acw bun ieuanc bennoeth
I'r waun â ar fore noeth
Sydd megis pêr leufer li
Hyd ei heurwallt yn torri.
Ei llygaid unlliw eigion
A'r bore hardd ar ei bron;
Ac ar ei min dyfnlliw'r gwinoedd
Neu ewyn aur yn chwerthin oedd.
Yr hen ŵr fu oriau'n wan
O'i gell ddoi'n ddiddig allan.
Heddiw doi'r bore rhuddaur
Ar ei wallt fel eiry aur.
Llais awel bell a suai:
Henwr hoff, mae'th oes ar drai;
Yf o deg dangnef y dydd.
Di, iarll hen, hyd hwyr llonydd.