Cerddi'r Bugail/Plant Trawsfynydd, 1914
| ← Priodas ddydd y rhyfel | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Plant Trawsfynydd, 1915 → |
PLANT TRAWSFYNYDD, 1914
HOLI'N wan amdanoch—fore a hwyr
Mae y fro adawsoch;
Yntau y cryf gorwynt croch
Eto sy'n cofio atoch.
Er oedi'n wasgaredig—hyd erwau
Y tiroedd pellennig,
Duw o'i ras a lanwo'ch trig
A dialar Nadolig.
Rhai o'r hen bererinion, oedd unwaith
Yn ddiddanwch Seion,
Aethant o'n hardal weithion
I'r wlad well dros feryl don.
Eraill aeth dros y gorwel—i feysydd
Difiwsig y rhyfel;
Uwch eu cad boed llewych cêl
Adenydd y Duw anwel.
Rhai ohonoch geir heno—hwnt y môr
Glasfant maith sy'n cwyno;
Efo'r gwynt tros ei frig o
Caf hiraeth yn cyfeirio.
Draw i afiaith y trefydd,—llu eraill
A yrrwyd o'n broydd;
Uwch eu llwyd hen aelwydydd
Acen salm y ddrycin sydd.
Er hynny, bell garennydd,—un ydyw'n
Dymuniadau beunydd;
Ni all pellter Iwerydd
Lwydo'r hen deimladau rhydd.
Er y siom trwy'r henfro sydd, a'r adwyth
Ddifroda'n haelwydydd;
Hwyrach y daw cliriach dydd
Tros fannau hoff Trawsfynydd.