Cerddi'r Bugail/Plant Trawsfynydd, 1915
| ← Plant Trawsfynydd, 1914 | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Gwennie → |
PLANT TRAWSFYNYDD, 1915
PE doech yn ôl i fro eich cydnabod,
Chwi welech fel cynt,
Eira fel llynges dlos o wylanod
Ar lanw y gwynt.
Gwelech lwydni y gaeaf diwenau
Ar fynydd a rhos;
Clywech y corwynt fel storm o dduwiau
Yng nghanol y nos.
Yma mae celloedd gwag dan y ddrycin
Yn fud a di fri,
A'r gwynt yn chwilio pob llofft a chegin
Amdanoch chwi.
Pell yw'r ieuenctid llawen eu dwndwr
Fu'n cerdded y fro;
'Chydig sy'n mynd at y Bont a'r Merddwr
Yn awr ar eu tro.
Holi amdanoch â llais clwyfedig
Mae'r ardal i gyd;
Chwithau ymhell fel dail gwasgaredig
Ar chwâl tros y byd.
Rhai ohonoch sy 'merw y brwydrau
Yn y rhyfel draw,
A sŵn diorffwys myrdd o fagnelau
O'ch cylch yn ddi-daw.
Eraill sy'n crwydro gwledydd pellennig
Yn alltud eu hynt
Ac yn eu calon atgo Nadolig
Yr hen ardal gynt.
P'le bynnag yr ydych, blant Trawsfynydd,
Ar ledled y byd,
Gartre mae rhywrai ar eu haelwydydd
Yn eich cofio i gyd.
Ni all pellterau eich gyrru yn ango,
Blant y bryniau glân;
Calon wrth galon sy'n aros eto,
Er ar wahân.
A phan ddaw gŵyl y Nadolig heibio
I'r ddaear i gyd,
Blant Trawsfynydd, tan arfau neu beidio,
Gwyn fo eich byd.