Cerddi'r Bugail/Priodas ddydd y rhyfel
Gwedd
| ← Gwersyll Litherland | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Plant Trawsfynydd, 1914 → |
PRIODAS DDYDD Y RHYFEL
ER dur wae y brwydro erch—hwyliasant
I lysoedd gwyn traserch;
Yno mae pob rhyw lannerch
Yn rosyns aur a swyn serch!