Cerddi'r Bugail/Wedi'r Frwydr
| ← Gwladgarwch | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Crist ar Binacl y Deml → |
WEDI'R FRWYDR
I
YMLADDGAR aflonydd fyd,
Dy Wynfa dlysaf o hyd
Ni chei ond ar amnaid ddrud
Diferion dy ieuanc waed.
Os llawn ydyw'r beddrod llaith,
Os trom fu'r frwydr, a maith,
Os garw a dofn dy graith,
Cei glod yr oesau sy 'mlaen.
Orseddau brenhinoedd byd,
Deyrnasoedd daear i gyd
Dan dynged rhyw frwydr o hyd,
Cewch farw neu ddechrau byw.
Di, filwr, saf ar dy draed,
Bydd barod i golli'th waed,
Cans o'r frwydr erwinaf caed
Pob gwynfa sy heddiw'n rhydd.
Diweddglo anghytgord o hyd
Yw tinc tariannau a chledd;
Bid rhyfedd mai brwydyr ac ing
Yw'r porth i fro undod a hedd.
Pa beth yw gwynfaoedd mwyn serch,
A thlysni barddoniaeth y byd,
A'r golau byth-newydd y llif
Ei lanw tros fywyd o hyd,
Ond tywyn or santaidd bell oes,
Wrth ddechrau golchi y ffin,
Y tywyn fun ymladd am ddydd
Ym mrwydyr yr oesau maith, blin?
II
Canaf fy nghân a'r hirnos yn cilio
A'r ieuanc wawr yn diffodd y sêr,
A breuddwyd gwelw yr hwyr yn machludo
Dan dymestl danbaid y golau têr,
Milfil baledaun llanw'r fforestydd,
Brudwyr y wawr ar lasfin y mynydd,
Dewinwyr mewn dawns wrth gerddgar nentydd
'Rôl ymladd oriau am wawrddydd bêr.
Weli di'r blodau sy acw'n chwerthin?
Weli di dorf y dail ar y gwŷdd?
Glywi di gân yr uchedydd melfin
Mewn awyr euraid,—fardd y cyhudd?
Wyddost ti faint o stormydd a brwydrau,—
Wyddost ti faint yr ymladd di-olau,—
A welsant hwy, ddewinwyr yr hafau,
Cyn dod ohonynt i blas y dydd?
Dacw yr ewyn yn wyn ar y glannau,
Wynned a dwylaw Branwen ferch Llyr;
Mi wn mai brwydr y dyfnfor a'r tonnau
A ddodes i'r ewyn ei dlysni pur;
Hardded ei ddelw ar fin Iwerydd,
Lili'r ystorm ar lasdon aflonydd,
Caiff heno chwerthin yn hedd y glennydd,
Ymhell o gadfaes ystorm a chur.
Gwelais y dymestl brynhawnddydd tywyll,
A'r awel wylai fel lleian brudd;
Rhaeadrai'r daran tros gwmwl candryll,
Fel cread o ing yn ffoi yn rhydd.
Wedi'r frwydyr, dymestl y nawnddydd,
Gwelais yr haul ar lawnt yr wybrennydd,
A dydd yn llifo o'i aur adenydd;
Felysed eto lesni y dydd!
Ba beth ydych chwi, wyrddion fforestydd?
Ba beth ydwyt ti, olau y dydd?
Onid meibion yr anwel ornestydd,
Goresgynwyr ieuainc daear rydd?
Nid yw llawenydd pennaf bro anian,
O'r wendlos lili a'r wefus arian
Hyd yr haul freuddwydia ddyddiau allan,
Ond atgo brwydr yr athrist gyhudd, —
Bywyd o swyn wedi ymdrech brudd.
Dithau, Riannon, ferch y tywysog,
Gwisg dy wenfron ag eur-ros y glyn
Golch dariannau y gwŷr a fu arfog;
Sych eu cleddyfau â'r pali gwyn;
Nac wyla farw feibion Llywelyn;
Cofia ddeufwy anobaith y gelyn;
Diolch am ryddid, a chân o'th delyn
Gerdd y concwerwyr gwrol di-gryn.
Llym ydoedd cleddyf y meibion hynny;
Cryf oedd eu braich a gwrol eu bron;
Hyd hwyr daliasant y faner i fyny,
Baner concwerwyr y frwydyr hon
Awchus y'u gwyliais o tan eu harfau,
A bro yn atsain trwst eu tariannau,
A thorf y gelyn yn ffoi o'r wlad;
Dos, Riannon, mwy at dy delyn,
Cân dy glodydd i feibion Llywelyn,
Meibion a biau lawryf y gad.
Cilio wnaeth niwloedd yr ormes a'r dulid;
Glas ydyw wybren yr henwlad dlos;
Cân ganiadau byth—newydd ein rhyddid,
Ferch sydd a'th rudd dan ddistyll y rhos;
Melys fo'r ddawns ym mhlas y pendefig;
Llonned heddwch y werin grynedig;
Ond cofiwn rywrai sydd unig, unig,
Dan wynllif gwenlloer glwyfus y nos.
Dithau a wyli mewn hendref unig,
A lliw'r cysgodaun drwm ar dy rudd,
Och! heddiw collaist afiaith dy fiwsig,
Heddiw daeth ing dros dy delyn brudd;
Trist y gwýr sy'n ewyllys y brenin
Gwelw y meibion oedd it' gynefin
Hiraeth sy'n crwydro ail oergri drycin
Drwy dy deyrnas unig derfn dydd.
Dristed dy orsedd acw heb heniiaeth
Cwympodd ornestwyr gorau dy wlad
Llaw y gorchfygwr sy'n llywio'th dalaith
Llawr gorchfygwr a'th drechodd yng nghad
Cri a dolef sy'n llanw'th heolydd
Dy ddwfn anobaith sua'r fforestydd
Wyli tan dremiad anfri y byd
Ar dy geyrydd mae dieithr faneri,
Dithau o danynt yn athrist wyli
Wedi'r frwydr fu iti mor ddrud.
Crwydraf yr heol noson o aeaf,
A hudlath haf ers misoedd ymhell;
Welwed yw deurudd llawer un welaf,
Waeled eu gwisg yn y storom hell
Drueiniaid unig athrist heolydd!
Ymladdwyr di-fri fy oes annedwydd!
Wedi'r frwydr cewch chwithau lawenvdd
Oriau hirfelyn mewn euroes well.
Dithau a deimli bwys yr ystormydd,
Cadw dy lygaid mor loyw â'r wawr;
Gweli tan belydr tanbaid ryw eurddydd
Wersyll y gelyn yn adfail mawr
Wedi'r frwydr, medd cri'r deffroad,
Wedi'r frwydr, medd tanllyd chwyldroad,
Wedi'r frwydr, rnedd Duw yr holl gread,
Daw nefoedd ieuanc i dramwy'r llawr.
Cofiaf am fardd fu yn araf wywo,
A thannau'i delyn i gyd yn dýn,
Bywyd fu iddo yn ddydd o frwydro,
Fardd yr awelon a'r gwenith gwyn.
Wedi'r frwydyr clyw ar ei feddrod
Ysbryd ei gân ar ei bererindod
Yn murmur am oesau hapus, gwell,
Oesau gloywach nag wybren y gorwel,—
Oesau sydd heddiw yn freuddwyd tawel, —
Oesau di-frwydr y cyfnod gwyn, pell.
Dithau, wyddoniaeth, ferch y deffroad,
Ysgwyd wnâi'th gledd ym mhorth y cyhudd;
Hired y brwyclraist am wawr las—lygad
Heddiw o'th ôl llif dyfnfor o ddydd;
A'th gledd bugeiliaist y lluchedennau,
Oth ŵydd ffy duwiau y mud gysgodau,
Heddiw o'th fiaen fe blyg yr wybrennau,
Fel môr dan amnaid anfeidrol ffydd.
Enaid a'th gri am loywach gwynfaoedd,
Enaid a'th freuddwyd am wennach ffin,
Rywdro cei ganu cerddi'r gwynfydoedd
A thinc rhyfelgerdd yn gado'th fin.
Wedi ymdrechion y milfil oesau
Cei sengi yn gryf i diroedd y golau,
I wenfro dy freuddwyd, O enaid blin, —
I wenfro felys y neithdar a'r gwin.
Gwersyll y niwloedd sy'n cilio o'th ffiniau,
Gwersyll d'amheuon a'th ddrygfyd mawr;
Acw dy Deyrn sy'n dyfod drwy'r nennau
A'r dydd yn llifo o'i wisg i lawr;
Y pur o galon a gwyd ei babellau
Ar fryniau tawel a gwastadeddau,
A niwloedd euraid drosto'n enfysau
A Duw'n dod ato ar lif y wawr.
Frwydrau'r ddaear, gloywch fy enaid,
Creithiwch fy nghorff, heneiddiwch fy nhrem,
Cyd yr agorwch ddorau'r byd euraid
I fab y dymestl a'r frwydyr lem.
Aerwyr y brwydrau yw plant pob gwynfyd, —
Ar fedd y gelyn tyf nef bob bywyd;
Bydd lawen f'enaid yn dy frwydr faith,
Ac ymladd heddiw ymysg y rhengoedd, —
Gwybydd 'does ran i neb yn y gwleddoedd
Oni bydd filwr ac arno graith.
Yn nydd y frwydr cei droi'n hynafgwr,
A'th hirwallt unlliw ewyn y don;
O'th ôl bydd dyddiau'r frwydr a'u cynnwr',
O'th flaen bydd glasfor tawel ei fron;
Dithau a weli ar frig y tonnau
Fadau rhianedd y teg ororau
Yn dod i'th gyrchu fel Arthur gynt
Dros fin pob glasdon draw i Afallon,
Ynys ddi-frwydrau yr anfarwolion,
Ynys dan lasgoed a cherddgar wynt;
Yno bydd angof dy glwyfau dyfnion;
Yno cei londer Llys y Pendragon;
A thrigi fyth yn Ynys y Wawrddydd,
Ynys a'r glasfor iddi yn geyrydd.