Cerddi'r Bugail/Wrth y Bedd
| ← Doli | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Glannau'r Lli → |
WRTH Y BEDD
MI'TH welais di yn gwelwi
Mor dlws a'r eira gwyn,
A lliw'r anfarwol dlysni
Yng nghlwyfni'th lygaid syn;
A gwelais di mewn amdo
Yn wyn a chlaer i gyd,
Fel angel ieuanc blin ynghwsg
Dan ros y prydferth fyd.
Ti geraist fyw'n garedig
Mewn symledd addfwyn llon;
Ni chafodd gwg na surni
Gymylu gwynfa'th fron;
Yr oedd dy ddyddiau telaid,
Er lleied oedd eu rhi,
Mor deg a'r clwm o flodau gwyn
'Roed ar dy feddrod di.
Ni theimlaist fin yr ingoedd
Sy'n llanw byd yr hen;
Cest farw cyn i wyntoedd
Y gaeaf edwi'th wên;
Ac er dy farw'n ieuanc,
Cyn dod o'r dyddiau blin,
'Roedd iaith y wenfro ddisglair bell
Yn huawdl ar dy fin.
Myn serch fel mun brudd lygad
Roi crwydrad blin di-hedd,
Mewn myfyr trist am danad,
Hyd fan dy ddistaw fedd;
A chlyw o dan ei chlwyfni
Bêr swyn dy fywyd gwyn,
Mor bêr â chanu clychau pell
Ar awel oer y glyn.