Cerddi'r Bugail/Y Blotyn Du
Gwedd
| ← Telyn Fud | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Gorffen Crwydro → |
Y BLOTYN DU
NID oes gennym hawl ar y sêr,
Na'r lleuad hiraethus chwaith,
Na'r cwmwl o aur a ymylch
Yng nghanol y glesni maith.
Nid oes gennym hawl ar ddim byd
Ond ar yr hen ddaear wyw;
A honno sy'n anhrefn i gyd
Yng nghanol gogoniant Duw.