Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bugail/Y Gwahodd

Oddi ar Wicidestun
Yr Arwr Cerddi'r Bugail

gan Hedd Wyn


golygwyd gan John James Williams
Atgo

Y GWAHODD

TYRD gyda mi dros y tonnau,"
Medd llais o'r ystorom bell,
"Fe'th boenaf di â rhosynnau
A golau y tiroedd maith pell,—
A chwerthin ynysoedd sydd well.

"Os tyr dy long ar y cefnfor
Ba waeth, bid lawen dy fron;
Mae plasau emrallt fy ngoror
Yn nyfnder beryl y don,—
Dan lif wylofus y don;

"Os cludir dy gorff tua'r glannau
Yn llaith dan ewynnau gwyn,
Caiff d'ysbryd drigo'r dyfnderau
Fel lloer yn nyfnderau'r llyn,—
Fel paladr haul yn y llyn.

"Cyfod dy hwyliau, a dilyn;
Nac oeda mewn byd mor ffôl;
Cei forio am haf brigfelyn
A'th hirwallt ar chwyf o'th ôl,—
Fel baner ddu ar dy ôl.


"Gwêl lewych y wenfro ddisglair
Tros lasdon Iwerydd erch,
Lle'r oeda rhos rhwng y glaswair
Fel mwynion ddeialau serch,
Fel dedwydd offeiriaid serch."


Nodiadau

[golygu]