Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bugail/Yr Antur Olaf

Oddi ar Wicidestun
Yr Aberth Mawr Cerddi'r Bugail

gan Hedd Wyn


golygwyd gan John James Williams
Marw Oddi Cartref

Yr Antur Olaf

Un dydd i'w antur gadawodd yntau
Henfro odidog ei ddifyr dadau;
Weithian ei glodydd edrydd ei frwydrau
Hyd erwau Ewrob a'i du ororau;
Ac yn y bell ddi-gân bau—rhoes yn glaf
Ei gŵyn olaf yn sŵn y magnelau.


Nodiadau

[golygu]