Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bugail/Ystrad Fflur

Oddi ar Wicidestun
Fy Ngwynfa Goll Cerddi'r Bugail

gan Hedd Wyn


golygwyd gan John James Williams
Yr Arwr

YSTRAD FFLUR

I
A MI yng nghwmni dwsmel awelon
Yn rhodio ogylch bro Ceredigion,
Deriais wrth Ystrad dirion,-lle yr oedd
Ysbryd oesoedd annisbur a dwysion.
Yno bu cwrdd wyneb certh
Adfail hen neuadd brydferth
Ac oed rhyw dywell bell bau
Yn ymyrraeth â'i muriau.

Yn nydd ei llachar gynnar ogoniant,
Hi fu'n gynefin â gwae a nwyfiant;
Ei ffenestri, mal lliant—aml-liwiog,
O hud eurog a cherfiadau ariant;
A thrwsiwyd prydferth ddrysi
Lliwoedd haf i'w chelloedd hi;
Cans gwedd fflwch ei harddwch oedd
Yn sisial dyfais oesoedd
.
Eurwawd organau y Brodyr Gwynion
Ohoni dorrai trwy'r Ystrad dirion,
A sŵn lleddf y clych meddfon—oedd yno
Fel su wylo ar felys awelon,
Ac o'i chôr a'i hallor hi
Deuai hirion baderi,
A swynol ysgawn seiniau
Ave hen trwy'i chain fwâu.


Rhai dewr a hoffus ar grwydr o draffell
A gyrchai yngo i gôr a changell;
A doi'r beirdd o'u hendre bell-dan ei nen,
Wroniaid awen bryd heldrin dywell;
Ar ei phwys y gorffwysynt,
Awenwyr ac arwyr gynt,—
Diasgloff gewri disglair
Caeth i swyn y Forwyn Fair.

O'i fyd di-wên doi aml unben tanbaid
Yno i degwch ei swyn bendigaid;
Ac yno deuai'r gweiniaid-o'u pell bau
I roi eu horiau i'r Wyry euraid.
Er trymder yr amseroedd
Ei byd syml darbodus oedd
I'r clwyfus yn elusen
A gwin i wŷr egwan hen.

Ac yno cedwid pob dysg odidog
A "rhuddem roddion" henfeirdd mawreddog;
Canys cai'r wlad ddrycinog-ynddi hi
Lên a dyri yn ei dydd blinderog.
Synod wen! rhoes, yn ei dydd,
Hafan i ddysg a chrefydd,
Pan oedd rhyfel a'i helynt
Yn gwasgu ar Gymru gynt.


Y saint o'i mynwes wylies dreialon
A chur ein disegur dywysogion;
Erys ei Brut yr awron-fel criau
Anniddig oriau a thrinoedd geirwon;
Ei mynwes gadwes ar go
Enwau dewrion diwyro,
A'n cenedl glyw sŵn cyni
Ei hen dras o'i chalendr hi.

Pand du fu dod o'r gelyn i rodio
Trwy oed a hinon yr Ystrad honno,
A gwelw adwyth i gludo-niwl di-hedd
Ar ei adanedd anhyfryd yno?
Anhunedd ar ei hedd hi
Dorres fel du bryderi;
A chariai pob rhoch irad
O'r ffriddoedd sŵn cymloedd cad.

Yno un hwyr 'roedd y deml yn eirias,
A'i meini henoed yn fflamio'n wynias;
Du y gofid a gafas-gan greulon
Gadau gelynion ac oed galanas.
Yn nhawch hwyr ei myneich hi
Wylai oed eu caledi,
Heb allor na chôr na chân,-
Oered a gloewod arian.


Oriog helynt o alar ac wylo,
Yw trawd hanes trwy yr Ystrad honno,
Cans y gelyn ers cyn co'—megis bâr
Rhyw gyhwrdd anwar a gerddai yno.
Iddo ef y neuadd oedd
Yn dŷ gloddest a gwleddoedd ;
A charnau 'i feirch chwerwon fu
Hyd laswyr huodl Iesu.

'Rôl llid a gofid fal chwyth gaeafau,
Tawodd y drin fin ei Sagrafennau;
Weithiau mae 'i hadfail hithau-'n ddolurus
Gwyn ar wefus holl wynt y canrifau;
A thrig gwyll wrth ddorau cau
Y byd oedd i'r abadau;
Yntau dlws gnwd o fwsog
Melfed lle bu Cred y Grog.


II
Yng ngwyll oedais rhwng lledwyr
Dderi hen, a hedd yr hwyr
Hyd ddolydd mal oed ddiloes
Y byd aeth o wybod oes.

Yr owmal goed ymgrymynt
Ym mhryderi gweddi'r gwynt;
A'r lloer fel tröell arian
Ucho ar bwys breichiau'r ban.

Doi isod nodau dwysion
Hen Garon deg arian dôn,
Maltae abad ym mhader
Yn llewych sant lluwch o sêr.

Gwelwn o'r parth darth yn don
Liw owmal ar Bumlumon;
A'i ridens cél a chwelynt
Ar y gaer fel mynnai'r gwynt.

A thlysed gweled wedyn
Yn lleuer sant y lloer syn
Fryniau cain ar gywrain gyrch
Yng ngwynt yr eang entyrch;
A rhwng eu prydferth rengoedd
Erwau dwfn yr Ystrad oedd,
A llewych hir a mirain
Y lwys loer ar y las lain


Lle mae hi, fwyn Deifi deg,
O ryd i ryd yn rhedeg;
Yn y fro cofiai'r awen
Swyn actau sanct oesau hen,
Mal a ŵyr yn hwyr ei oes
Ddewiniaeth gwawrddydd einioes;
Yna rhyngof a'r nennawr
Gwelwn dremyn murddyn mawr ;
Yn y dud mor fud efô
A duw hen wedi huno
Mewn trymllyd adfyd ar ôl
Hen, hen feirwon anfarwol.

Yr adail lliw marwydos
Oedd yn un â'r bruddaidd nos;
Ei llaswyr oedd yr hwyrwynt.
A'i gweddi oedd gweddi'r gwynt ;
A lleisiau o bell oesoedd,
Fel atgof uwch angof, oedd
Yn fy enaid fy hunan,
Ac yn y gwynt ganai gân.
Tybiwn atsain o'r main mud
Rhyw bellter arab alltud,
Fal swyn ymeifl a synnwyr
O wylio hud gorwel hwyr;
Cans anneallt frud alltud
Oedd o fewn y neuadd fud.


Ac yno, fel bu ganwaith,
Rhoddwyd i mi freuddwyd maith,
A dyfod hyd i fyd oedd
Is y gŵys yng nghwsg oesoedd,
A chanfod iddo'n rhodio
Wr hen breg tros fryniau bro;
Yn ei gwfl y canai gwynt
Garol rhyw oes ddi gerrynt;
Wynned ei wisg amdano
Ag ewyn dŵr, neu 'i gnawd o,
Ac ar ei ais gwelwn grog
Rwym o ruddaur mawreddog;
Ac yn ei law 'roedd cain lên
Ei dduwiol santaidd awen;
Eithr hyd erwau'r llathr diroedd
Ust rhyw ddwfn ddistawrwydd oedd.
Ar wyneb y mur yno
Y rhoddes drem hirddwys, dro;
Niwliog darth i'w lygaid oedd,
Lliw asur y pell oesoedd;
A didlawd y dywawd o
Er ei alar a'i wylo:

"I'w rawd oer ban elo'r dydd
O lwyni'r Ystrad lonydd,
A'i gweld hi, deg leuad hwyr,
Ar ieuanc lwybrau'r awyr,
Hiraeth wêl, trwy'r gwynt melyn,
Ysbryd ag oes y Brawd Gwyn;
A'r llys fu'n gartre llaswyr
Liwir a gwawl oriog hwyr.


"O redyn y dyffryn dir
Eilwaith abadau elwir,
Ac eilwaith bydd tinc wylo
Rhyw osber hen ar draws bro;
Daw yr hen offerennau
O law'r bedd yn ôl i'r bau,
A llefair hud o'r gell frau
Felys araf laswyrau;
A'r myneich glân, tan ganu,
Gânt ddod, liw gwylanod lu,
O dyweirch y Cwm diwair
I oed â'r fwyn Forwyn Fair.

"A phan bo'r hwyr ar ffin bro
A nos-awel yn suo
Clywir son ysbrydion brud,
Is owmal darth, yn symud,
A diweirllu yn darllen
I ysig wŷr rhyw ddysg hen;
Eilwaith ceir gwylio helynt
Y dyddiau gwell, santaidd gynt,
A gweld mil seintiau diloes
Y byd aeth o wybod oes:
Rhodiant o'r bedd marwydos
Ar gaen niwl a lloergan nos.

"Eithr ar neshâd toriad dydd
Hwnt gwinau gant a gweunydd;
Hud yr hwyr o'r neuadd dry,
Ac oer fydd cainc y Wyry.


Y myneich dry'n goed maenol
A'r abadau'n darthiau dôl;
Try'r cannaid offeiriaid ffydd
Yn gawn wrth neint y gweunydd ;
A'r deml freg dry'n gartre gwynt
A chethrin ysgrech uthrwynt;
A bydd curaw aflawen
Ar ei chôr a'i hallor hen."

Ar hyn yr abad a drodd,
A'r caddug hwyr a'i cuddiodd;
Ac nid oedd ond cŵyn y dail
Hyd drofâu'r goetre fiwail
Unwedd y sant fwynaidd sôn
Ganai y Myneich Gwynion.

Yna mi a ddihunais,
Fel gwŷdd tan ddiofal gais
Addfwyn wynt, hithau'r feddf nos
Hyd dewddail y cwm diddos.
Eithr swyn nas traethai'r synnwyr
Oedd ar gêl awel yr hwyr
Fel mil gosberau diloes
Y byd aeth o wybod oes;
A drych syn y murddyn maith
Welwn fel mudan eilwaith.


III
Tramwyais yn hedd prim y boreddydd,
Fin Teifi donnog, wydrog, dafodrydd;
Ac yno daeth er gwên dydd—ysbryd oed
Rhyfelau henoed a gwŷr aflonydd.
Eilwaith adfywiai dolur
Ieuenctid hen actau dur;
Ac yn y gwynt ganai gerdd.
Gwingai anniddig angerdd.

Yno tanodd gwelwn fynwent unig
A llewych hiraeth i'w thalaith helig;
A doi o ro y drymllyd drig—i'm bron
Nodau dwysion rhyw fudandod ysig;
I'w herwau claf o hiraeth
O'i boen hir aml unben aeth ;
A'r dewr o frad hir ei fro
Ddihanges i'r bedd yngo.

Ar finion tyner y fynwent honno
Rhwng melyn redyn 'roedd macwy'n rhodio;
Heulog a dwfn ei lygaid o,—ac oed
Rhyw ddawn henoed yn eu gwyrdd yn huno.
Yn ei drem 'roedd mwynder haf
Ac enaid ar ei geinaf;
Ac i'w lais islais glaslyn
A threbl hesg wrth arab lyn.


Doedai a welir trwy goed y dolydd,
Doedai hanes ei dadau dihenydd,
Doedai a ŵyr gwynt y dydd—a'r nifwl
Chwery ym mhannwl ac ochr y mynydd.
Canys gwae y nosau gynt
Erys yng nghôl y corwynt;
A daw o'r hesg gyda'r hwyr
Hanes tu hwnt i synnwyr.

Ac yna rhodiodd y macwy'n wridog
I hendref nychlyd, oer y fynachlog;
Ac ar ei llwydfur gwyrog—'roedd esmwyth
Chwaon diadwyth a chân odidog.
Oddi draw daeth torf lawen
Ar ei thaith tua'r porth hen;
Ar hyn y macwy a drodd,
A di oed wrthi dwedodd:

Mae rhyddid yr hen oesau mawreddog
Ban gerddai hedd trwy'r dudwedd odidog?
Mae y glew dramwyai glog,—a'r seintiau
Gerddai ar greigiau rhuddaur a grugog?
Wele eu sorth achle sant
Yn adfeilion difoliant,
Mal duoer wedd teml dywell—
Pantheon poen aethni pell.


Ond cofia Teifi, ferch y gellioedd,
Lymder eu hanes a'u gwenfflam drinoedd,
Canys fe chwardd drycinoedd—atgo 'u dig
Yng nghwm anniddig rhwng y mynyddoedd.
Erys ar fin pob corwynt.
Oriog oes Ap Tewdwr gynt;
A chân pob awel felys
Lwydd a rhawd yr Arglwydd Rhys.

"A'r dydd ar drywydd tros geyrydd gorwel
A cheinciau irwydd fel gwreichion cwrel,
I'r neuadd oer aml deyrn ddêl—o bell ddydd
Hendre ddihenydd rhyw diroedd anwel.
Eilwaith y dewr Lywelyn,
Ar ei rawd trwy'r erwau hyn,
Dry gyda'i wŷr i gadw oed
Yn llonydd y gell henoed.

"Eithr pe cerddid brig yr ysig rosydd,
A'r corwynt yno yn curo'r ceyrydd,
Enaid wêl ddrych hefelydd—trem byddin
Erwin, a thrin ar fron a tharennydd,
A bydd tros wyneb y bau
Gynhyrfus gaen o arfau;
A'r hoyw—wyr braisg, tarawan
O'u gleifiau dig lif o dân.


"Ac yna gwelir yr hen unbennau
O'u herwau breiniol yn ffoi i'r bryniau
O'r trinoedd a'r taranau,—athrist iaith
Neithior anobaith ar eu hwynebau :
Eu gwlad o'u hôl fel ffagl dân
Yn y duwch adawan';
Yntau'r creulon estron ŵr
Ogylch dry yn orchfygwr.

Heddiw mae'r godidog dywysogion
Is y gaen isod yn cysgu'u noson;
Ond er enhuddo'r dewrion—bydd gofwy
Eu hanes hwy fyth ar grwydr y suon.
Ac o'u teg feddau segur
Rhyw hud fflam gaiff Ystrad Fflur
A bydd ar awel y bau
Hirfaith atsain eu harfau."

Yma y tawodd ei ymadroddion
A'u hud hwyliog, mal y tau awelon
O gaead frig coed y fron,—a'r dorf aeth
I hyfryd hiraeth wrth gofio'r dewrion.
Yna gwelais hwy'n cilio.
I'r wawr aur ar fryniau'r fro,
Heibio i hen hud y bau—
Heibio hun ei hunbennau.


IV
Neithiwyr gwenlloer ddisglair nofiai'r nefoedd,
Brudded a dwysed â breuddwyd oesoedd:
Pob rhyw hud a goludoedd—dorrai'n gân
Gywoeth o arian ar wig a thiroedd.
Hyfryd uwch y cwm difri'
Casglai'r niwl delediw li
Liw pebyll rhyw wersyll wawn.
Neu esgyll o farbl ysgawn.

Gwelwn drachefn rhyw anhrefn o wynros,
Gloywon wedd cerygl o winoedd ceirios:
Ac ar waun ddiddig a rhos—gwelwn ynn
Ac aml dyddyn is eu cymyl diddos.
Ac ar y pellter arian
Lleuad oedd fel gelli dân,
A'i hambr hud ar gwm a bron
Dorrai'n ddewiniaeth dirion.

Yna mi welwn godi o'r moelydd
Eneidiau o'u hun, ar ddull dihenydd;
A llawer hen awenydd—gyrchai'r tir
O rug y gwyllt—dir a chreigiau gelltydd.
Pob un yn cerdded wedyn
Hyd ymyl swrth y deml syn,
Ar wedd anhymig freuddwyd
Addfwyn a lleddf, hen a llwyd.


A hwy yn cerdded rhwng ifanc wyrddail,
Drwy'r hwyr digymar, i oedfa'r adfail,
Tros y ffriw daeth gwynt miwail,—gan roi maith
Sidanog hoywiaith tros dwyn a gwiail.
Deuai pob cysglyd awen
O fedd oer canrifoedd hen;
Tros ennyd torrai'u seiniau
O'r mur breg yn furmur brau.

Yna o'r tarthiau a'u haenau gwynion,
I hud yr oror, codai yr awron
Ddau yn dwyn nodau mwynion—prydferth oed
Rhyw oesau henoed o fflur a swynion.
A than dangnef y nefoedd,
Isel lais eu sisial oedd
Megis peraidd, hafaidd hynt
Soniarus awen hwyrwynt.

Pa ryw waeth o phylodd pryd
Achle y mynach nychlyd,
Ac od yw cwsg wedi cau
Oed ei hirion baderau?
Ei Gred freg a'i Ave gynt
A'i laswyr oll giliesynt;

Y Wyry a Phedr o'r tir ffodd
A'i Wyliau yntau welwodd:
Ar ei fin rhoed yr hinon
Amliwiog, flodeuog don;
Yntau frwd gorwynt y fro
Uwch ei wyrdd gysgle chwarddo.


"Ei hendrist neuadd gandryll
Gwynfanna'i gwae yn nwfn gwyll,
Ac yng nghôr ei sant Forwyn
Wele tyf dail Tafod Wyn.

"Er colli o'r gelli gân
Holl wŷr y mentyll arian,
Ni phaid rhos a phader rhydd
Eglwysi'r deiliog laswydd;
Ac yntau'r gosber ery
Eto ar fron coetir fry,
A chwardd ei glych rhydd a glas
Hyd eurlawnt y coed irlas.

"Yn y twyni hyn tanom,
Yn y drwch dywarchen drom,
Hen unbennau a bonedd
Y sy'n fud mewn dison fedd;
Prifion rhyfel a helynt
Ewynnog, ysgythrog gynt,
Heddiw bedd di-gledd y glyn
Yn ddi-drwst gaeodd drostyn'.

"Er edwi primas brodir
Ni thau neint â'u chwerthin hir;
Mwy dyred, fy ngem dirion,
I oed fry tan goed y fron;
Mae'r dewr bob un mewn hunell,
A marw yw gwŷr garw y gell;


O'u myned i drwm hunaw
I'w hedd hir, mi wn na ddaw
Angau i deml ieuengoed
Cariad gwin is gwridog goed.

"Yno i'r deml o fanwydd
Dau o fwyn offeiriaid fydd;
O berthi'r haf ebyrth rhos
Dalant i Dduw y deilios;
Yn hud yr hwyr cân' roi tro
I gangell fwsog yngo;
Ac oedfa eu serch gydfydd
A phader yr aber rydd;
A thrwy'r demel ddihelynt
Bydd nodau organau'r gwynt.

"Yn y gwŷdd ni bydd a'n gwêl;
Ond esmwyth seiniau dwsmel
Glyw y byd o'r ddirgel bau,
Ail dieithr drebl y duwiau;
Yno fyth ysbrydion fom,
A dryswaith o ddail drosom;
Ac erys seiniau'n cariad
Fel drysi ar lwyni'r wlad.

"Myfi a'm merch a biau
A genir o berthi'r bau;
Ac oed wen y dadeni
Dramwya'n hud drwom ni.
Er trigo 'nghudd tan hudd hwyr
Ein swyn fydd ar bob synnwyr."


Yma tawodd y llafar a'r siarad
Maltae wynt blin yn llewin y lleuad;
A cherrynt o dawch irad—a threm bres
Yn araf wyres tros y dorf eurad.
Eithr ysgawn fwyn allwynin
Am ryw Ddafydd Gywydd Gwin
Yn nwsmel yr awel oedd
Ar y llennyrch a'r llynnoedd.

V
Gaeaf trwm ddaeth i'r cwm cau;
Ym mhenyd ei wynt, minnau
Dramwyais, tynnais at dân
Llety o'r eiry arian.

Cwrdd â llawen ŵr henoed
Yno ges, wrth dân o goed;
A diail y doedai o,
A'r rhewynt heibio'n rhuo:

"Bûm innau trwy'r tir mirain
Yng nghymun hud mud y main;
Yn y bau 'roedd lleisiau lleddf
Yn darllen brudiau oerlleddf,
Ail oriog sŵn galaru
O freuddwyd oer dyfroedd du;


Ac yno rhyw ŵr canwelw
Arhoai dan frigau'r derw;
Ei fantell chwyfiai wyntoedd
A'i wedd yn null Myrddin oedd,
Hithau y nos tros noeth nef
Ei gandryll aethog hendref.

"A'i leddf air galwodd i fod
Oesau hen y freg Synod;
Ac ar hyn rhyw dri gŵr oedd
Yn tario ar y tiroedd
Mal dison ysbrydion brau
Cynnar haf y canrifau.

"Ar un 'roedd delw'r trinedd,
Gwisgiad dur ac esgud wedd;
A'i darian, fel ei diroedd,
Yn dolciog, ysgythrog oedd.
Y llall oedd mewn mantell wen,
Geined ag eiry gaenen;
A'i lwyd fin, cynefin oedd
A llaswyr y pell oesoedd.

"Y trydydd trwy'r lawnt rodiai
A'i drem oll fel mwynder Mai;
Ei hirwallt crych, eurwyllt, crog,
Donnai fel ffrwd adeiniog;
Ac ar ei fant ramant ros
I'w gariad wefus geirios.


Ar hyn y dewin a drodd,
A rhwydd i'r tri wŷr rhoddodd
Dair o glych diwair a glas
Wasgarai fiwsig eirias;
Ac wedyn y gwynt gododd,
A phawb o'r rhithiau a ffodd.

"O'u myned o'r cwm unig
I ryw oer, anghyffwrdd drig,
Da y gwn fod nwyd y gerdd.
Yngo o hyd yn angerdd,—
Yn hud ail i sŵn deilios
Dan wynt pêr yn nyfnder nos;
A chân y clychau hynny
Yn y dud sant o hyd sy:
Canant ar lif drycinau,
Heibio i'r hen furddyn brau;
Canant am atgo einioes
Y byd aeth o wybod oes;
Ac yno rhydd cân y rhain
Alaw egyr Ein Plygain."

Yna'r gŵr breg oer ei bryd,
Dawodd fel sŵn dyhewyd.


Nodiadau

[golygu]