Cerddi'r Eryri/Byrder oes Dyn

Oddi ar Wicidestun
Can yr Hen Bobl Cerddi'r Eryri
Cerddi
gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd)

Cerddi
Hiraeth am Lanfair

BYRDRA OES DYN

Mesur—Triban Morfydd

A fedd synwyrau diau dowch,
Ar undeb trowch i wrando
Yn un fwriad gan fyfyrio
Fel mae'n llethrog ddydd yn llithro,
Ni rusir mono i aros mynyd,
Gwalch ar hedfan, edyn buan ydyw'n bywyd.
I ba beth y gwnawn ein nyth
Lle na chawn byth fwyneidd—dra?
Llong ar dymhestl yw'r byd yma,
Rhyw groes ofid a'n croesawa;
Os heddyw dyddia byr ddedwyddwch,
Cawn gylchynu cyn y fory ag annifyrrwch.
Pa beth yw mawrion beilchion byd?
Yr iachol fron a'r uchel fryd,
Y luniog eneth lana'i gyd
Hi ddaw i'r gweryd gwaredd
Ni chymmerir parch a mawredd
Enw a golud—mwy na gwaeledd;
Unrhyw brenin a chardotyn,
Unrhyw gwawr y cawr a'r coryn,
Mae gyrfa dyn yn gryf un dyniad
Fel ar genlli daw o'r Eryri'r dwr i waered.
Mae llawer profiad treigliad tro
Ar ddyn o hyd o'i grud i'r gro,
Mewn rhyfel drud â'r byd tra b'o,
Gan geisio ynddo gysur;
Ar ei galon ddilon ddolur
Am ail yfed mwy o lafur,
Gwneuthur casgl a methu cysgu,
Yn y byd ei fryd hyfrydu,
Yn nghanol hyny ei alw o hono,
Heb un gronyn, da na thyddyn fel daeth iddo,

Gwagedd mawr rhoi serch a bryd
Ar olud byd a'i wychder,
Hedeg ymaith y mae'n hamser,
Ar ein hoedl na rown hyder;
Pa mor ofer yw ymrwyfo
Am ormodedd, yn y diwedd a'n gadawo?
Ffol i ddyn roi 'i goryn gwan
Yn filwr dan ofalon
Tra f'o conglau yn ei galon
Anostegol nid oes digon
Bydol union a'i bodlona,
Pethau'n darfod, ansawdd ammod, hyn sydd yma.
Ni wnaed ini mo'r byd un waith,
Na ninau i'r byd awch unfryd chwaith,
Ond er ein tywys ar ein taith
Drwy'r dyrys maith daearol;
Bod yn fyr o'r byd anfarwol
Yw ei flysio'n rhy aflesol;
Dodrefn benthyg oll sydd ynddo,
Mae da'r byd i gyd i'w gado;
Prin cawn o hono, cofiwn hyny
Letty priddfedd i deg orwedd wedi ei garu:
Noeth y daethom megys Io,
A noeth yr awn i nyth o ro,
Ein neges yma trigfa tro
Ail geisio nefol gysur;
Cyn i'n dydd hwyrâu yn rhyhwyr,
Cyn machludo haul ein hawyr,
Yn ein gwisg gochelwn gysgu,
Gwaedd ar haner nos sy'n nesu;
Dyn ni phery mewn hoff hiroes,
Ceisiwn felly, Amen lynu mewn ail einioes.
NANTGLYN

Nodiadau[golygu]