Cerddi'r Eryri/Gogangerdd Dirmygwyr Cyfarfodydd Llenyddol

Oddi ar Wicidestun
Plu ydyw plu yn y diwedd Cerddi'r Eryri
Cerddi
gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd)

Cerddi
Sion Prys

GOGANGERDD

I DDIRMYGWYR CYFARFODYDD LLENYDDOL

Roedd yn Llanddowror gynt hen wr,
O'r cyfnod nid wyf berffaith siwr;
Gall fod ei hanes yn y Dwr,
Ond nid yw bwys am hyny;
Ei enw oedd Gruffydd Sion y sant,
Hen ddysgybl hoff o ddysgu plant,
Cyfododd gwn, ysgolion gant,
Mewn cwm a nant yn Nghymru.

Trwy gyfrwng ei ysgolion rhâd,
Gwnaeth anherfynol ddrwg a brâd,
Ac yn mhob meddwl hauodd hâd.
'Rhyn eilw'r wlad gwybodaeth!
Gwnaeth hyn dragwyddol ben ar hynt
Yr hen foddlonrwydd dedwydd gynt,
A gwnaeth i'n bechgyn lyncu gwynt
Chwilfrydedd a llenyddiaeth.


Cyn hyn arferai'r ieu'ngtyd mad,
Bob Sul a gwyl ymgasglu'n gâd,
I erlyn rhyw chwaryddiaeth râd,
Wrth alwad tueddiadau;
Bob gyda'r nos ceid dawns a chân,
Yn nghwmni glwys lodesi glân,
Nes hedai'r oes yn ddiwahan,
Heb son am ffwndwr llyfrau.

O! 'r hybarch, fwyn Rufeinlg fam,
Byw byth fo'th deyrnas, herwydd pam,
Tra llywiaist di wneid nemawr gam
A’r meddwl trwy fyfyrio;
Cai'r werin dreulio oes ddi fraw
Heb son am Grist na llyfr i'w llaw,
Rol pechu mis, wyth swllt neu naw,
Wnai setlo'r Bil a'i glirio.

Ond erbyn hyn pêl droed nid oes,
Na thaflu maen, na chodwm clos,
O wawriad Sul hyd wylliad nos,
Naw wfft i'r chwaeth bresenol!
'Does chwareu ceulus mewn un man,
Na thenis ball wrth glochdy'r Llan,
Pob pleser teilwng laddwyd gan
Y cwrddau ban llenyddol.

Ow, ow, mae'r wlad yn awr fel pair,
Pob tref a llan ple bynag'r air,
Does dim ddywedir neu a wnair,
Yn sefyll at y safon,
Goleddir gan aelodau certh,
Ryw gymdeithasau gwag diwerth,
Lle profa dynion bwys a nerth
Gwahanol egwyddorion!


I fechgyn nwyfus, llon eu bryd,
Fel ni, sy'n arfer cyrchu'n nghyd,
I dreulio'r nos mewn, stafell glyd,
Yn ngwynfyd diod feddwol;
Fe fyddai'n slafaidd wasaidd waith
I ni bendroni'n nghylch yr iaith,
A drysu’n menydd ddyddiau maith
Ynghylch dysgeidiaeth foesol!

Pa waeth i ni pe llosgai'n nghyd
Bob llyfr a Beibl sy' yn y byd;
Neu pe bai pob llenyddiaeth ddrud,
Yn ffaglu‘n nghyd yn wenfflam?
Os cawn ni fwyd a phres a spree,
A bywyd llawen, waeth i ni
Pe'r ai pob enaid gyda'r lli,
A Chymru i gyd yn Fediam!

Nid y, m mor ffol, ynfydion wyr,
A cholli gwynfyd oriau'r hwyr,
Gwastraffu papur, ingc, a chwyr,
Er mwyn llenyddwyr Brydain;
Dilynwn ni'o pleserau cun,
Gwnaed pawb trwy'r byd fel myno 'i hun,
Pa les i ni fod unrhyw ddyn
Yn ddedwydd, ond ni'n hunain?

Er pan ddaeth dysg a llyfrau'n rhad,
Aeth pob teilyngdod ar leihâd,
Mae myfyr bechgyn gloewa'r wlad,
Yn wastad am Lenyddiaeth!
Wel codwn frodyr oll un fryd,
Ymdrechwn dd'rysu eu cais i gyd,
Hwre i'r Pab—Ac "Oes y byd"
I ddybryd anwybodaeth.
GWILYM COWLYD

Nodiadau[golygu]