Cerddi'r Eryri/Gweno Fwyn Gu

Oddi ar Wicidestun
Codiad yr Hedydd Cerddi'r Eryri
Cerddi
gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd)

Cerddi
Y Morwr Mwyn

GWENO FWYN GU

A ddoi di, fy nghariad, i gysgod y llwyn,
Hei, ho, Gweno fwyn gu,
I glywed yr adar yn trydar yn fwyn,
Hei, ho, Gweno fwyn gu;
Daw'r fronfraith i ganu ar frigyn y pren,
A'r hedydd i gwafrio yn entrych y nen,
A'r fwyalch i byngcio i blesio fy Ngwen,
Hei, ho, Gweno fwyn gu.

Mi wn bydd y rhosyn prydferthaf y sydd,
Hei, ho, Gweno fwyn gu,
Yn chwenych rhoi cusan i'r gwrid ar dy rudd,
Hei, ho, Gweno fwyn gu,
A'r lili'n adlewyrch claerwynder dy fron,
Gan dd'weyd "O na b'awn i cyn wyned a hon,"
A minau'n addoli dy lygad glas llon,
Hei, ho, Gweno fwyn gu.

Ar ol ini rodio drwy gydol y dydd,
Hei, ho, Gweno fwyn gu,
Y nos wrth fyn'd adre' cei gyffes fy ffydd,
Hei, ho, Gweno fwyn gu,
Bydd swn ein cwmniaeth yn fiwsig a medd,
A'r lloer yn tywynu yn hoew mewn hedd,
A'r ser yn ddysgleiriach pan welant dy wedd,
Hei, ho, Gweno fwyn gu.

O mawr yw fy mhleser a mwynder fy myd,
Hei, ho, Gweno fwyn gu,
Pan fyddwyf yn dotio ar lendid dy bryd,
Hei, ho, Gweno fwyn gu,
A'm meddwl yn rhedeg o hyd ac o hyd
Ar bethau mwy gwerthfawr na golud y byd
Priodas, a chariad, a babi, a chryd.
Hei, ho, Gweno fwyn gu.

Nodiadau[golygu]