Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bwthyn/Beddargraff Clepwraig

Oddi ar Wicidestun
← Beddargraff Gwerthwr Gwin Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Beddargraff Morwr →

BEDDARGRAFF CLEPWRAIG

MAE hon heb air am unwaith,—wedi stŵr
Daeth distawrwydd perffaith.
Ar gleber ofer afiaith
Rhoed clo Amen,—Amen maith.


Nodiadau

[golygu]