Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Carlo
| ← Cwmisdir | Cerddi Edern a Cherddi Eraill gan John Glyn Davies |
Melin Edern → |
CARLO
Cof am hen fastiff coch, y cyfaill ffyddlon,
cydymaith ar bob taith i Bortinllaen;
draw at y Rhosgor ac ar hyd yr afon,
rhodiwr diflino i arwain yn y blaen.
Yr oedd efe yn un o deulu'r felin,
ychydig iawn o gŵn a fu o'i fath,
gorweddai'n ddistaw o dan fwrdd y gegin,
a'i lygaid effro'n gwylio y ddwy gath.
Wrth hebrwng gwartheg byddai'n ddigon hapus,
heb wylltio'r osgordd drom, na buwch na llo,
ond hongiai wrth fôn cynffon tarw barus,
a'r tarw fyddai'n cael y braw bob bro.
Roedd Carlo yn Fethodsyn cydwybodol,
nid ae er dim i grwydro ar y Sul,
ond gwarchad adre'r dydd yn ddefosiynol,
a bod yn dda, a rhodio'r llwybr cul.
Ofer oedd ceisio ei hudo draw o'i warchad,
fe wyddai Carlo'n reddfol am y dydd,
tan gadw'n drist tu cefn i'r llidiard gauad,
a'r dagrau'n pefrio yn ei lygaid prudd.
Mor llawen byddai pan ddoem ni yn ein holau
i Edern unwaith eto yn yr haf,
a neidio amom, gosod ei bawenau
hyd at ein sgwyddau; llyfu'n cegau'n braf.
Ar ôl hir aros, gwelai Garlo ddyddiau
o rodio glan y môr am furgyn pêr;
cae eto ymlid brain ar hyd y caeau
ac ymlid cryrod gleision at y sêr.
Cae eto gloddio'n ddwfn ar ôl cwningod
a'i 'winedd blaen yn lluchio pridd o'i ôl
a blino, a throi ymaith tan ddyhefod,
i ryw gwnhing-gaer arall dros y ddôl.
Hen gi maddeugar, sawl gwaith y maddeuai
i'r bechgyn am eu castiau dro ar ôl tro;
ffyddlon i'r carn, tu hwnt i ddyn, ni ddigiai,
ond codi'i glustiau am air i fynd am dro.