Neidio i'r cynnwys

Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Cerdd y Genweiriwr

Oddi ar Wicidestun
Dygwyl Dewi Cerddi Edern a Cherddi Eraill

gan John Glyn Davies

Clochydd Mai

CERDD Y GENWEIRIWR

Diwmod o haf yn Mai,
a'r awyr yn lachar las.
Oerni y gwanwyn ar drai,
a'r brisyn yn dda ei flas.
A pheraroglau cynes yr eithin;
sŵn y ffrwd dros gafn y felin;
Diwrnod o haf yn mis Mai,
a'r awyr yn lachar las.

Diwrnod o Fai a'r ffyrdd
yn frith dan y blodau mân;
haul yn tywynu yn wyrdd
drwy'r ddeilen newydd lân.
Gwafrio ehedydd, goslef mwyalchen,
chwiban bronfraith ar frig coeden.
Diwrnod o haf yn mis Mai
a'r awyr yn lachar las.

Diwrnod o Fai ar faen,
y dibyn uwchben y llyn
haul ar yr enwair, a'i blaen
yn hepian dan wynt y bryn.
Ghwa ar y llyn a lliw yn ei ddyfnder;
gwynt yr eithin draw yn dyner.
Diwrnod o haf yn mis Mai
a'r awyr yn lachar las.


Nodiadau

[golygu]