Neidio i'r cynnwys

Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Clochydd Mai

Oddi ar Wicidestun
Cerdd y Genweiriwr Cerddi Edern a Cherddi Eraill

gan John Glyn Davies

Yr Ynys Ddedwydd

CLOCHYDD MAI.

Gog yn canu'n bell o'r tai,
acw, acw, acw, rywle;
clochydd ydwyt i fis Mai,
acw, acw, acw, rywle.
Pawb a'th glyw o glochdy dail,
acw, acw, acw, rywle
Dwy gloch arian bob yn ail.
acw, acw, acw, rywle.

Clochydd Mai lle'r wyt ti'n byw,
acw, acw, acw, rywle;
pell ac agos wyt i'r clyw,
acw, acw, acw, rywle.
gwyr y sgwarnog lle'r wyt ti,
acw, acw, acw, rywle
gwyr y dryw, ond nid wn i.
acw, acw, acw, rywle.

Galw'r adar i roi cân,
acw, acw, acw, rywle.
galw'r blodau, mawr a mân;
acw, acw, acw, rywle.
galw'r plant i gyd o'u tai
acw, acw, acw, rywle.
i roi croeso i fis Mai.
acw, acw, acw, rywle.

Mai, 30.


Nodiadau

[golygu]