Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Coedwig Hydref
Gwedd
| ← Cywydd Mis Mehefin | Cerddi Edern a Cherddi Eraill gan John Glyn Davies |
Llythyrau Morgan Davies → |
COEDWIG HYDREF
Yn agoshau mae'r gaeaf,
a gorphen mae heulwen haf,
gwywo mae cnwd y gwiail
a derfydd dydd rhwysg y dail.
Y dail fu gyneu'n delaid,
yn madru'n llu yn y llaid;
awel braf haf fu'n amlhau
y dail hyn yn delynau.
Aeth gwylan wen o'r glenydd
draw i'r wlad ar doriad dydd,
ond er gwened hardded yw,
cenhades drycin ydyw.
Gyr drycin y gwynt miniog
i chwalu'r tai garai'r gog,
a phob cangen felen fydd
yn sturmant i'r ystormydd.
Llanbadarn, Hydref, 1900.