Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Cwmisdir
Gwedd
| ← Y gors wyllt | Cerddi Edern a Cherddi Eraill gan John Glyn Davies |
Carlo → |
CWMISDIR
Clawdd yn Lleyn uwchben y môr,
a'r porphor bychan arno,
hwn mor bêr, pob chwa a dyn
y gwenyn tuag yno.
Sŵn y gwenyn haner swrth
yn grwnian wrth felusder;
sŵn y dẃr ar hyd y gro
wrth dreiglo'n ôl i'r dyfnder.
Adar môr ar fin y dŵr
yn cadw stŵr yn swnllyd,
'deryn cywarch draw mewn llwyn
yn canu'n fwyn am funud.
Glas y môr tu draw i wyrdd
y clawdd a'i fyrdd o flodau;
cysgod cwmwl gwyn ar led
yn cerdded tua'r glanau.
Creigiau isel wrth y lan
a'u gwymon dan ddŵr gloew,
yn ymsymud yn y man
dan ymchwydd gwan y llanw.
Ac yn unig ar y graig
yn gwylio saig y glenydd,
mulfran dal fel delw ddu,
dan daenu ei hadenydd.
Mynwn fod yn ngolwg môr
a'r porphor dan fy elin,
ac yn gweld y fulfran ddu
yn harddu ei chynefin.
Gorph., 40.