Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Cywydd Mis Mehefin
| ← Yr Ynys Ddedwydd | Cerddi Edern a Cherddi Eraill gan John Glyn Davies |
Coedwig Hydref → |
CYWYDD MIS MEHEFIN.
Y mis byr distaw llawen,
mis pan fydd beunydd uwchben
groywaur rwysg yr huan
yn ei deyrnas loywlas lân.
Adeg pan fydd gosteg ar
lef y ddrycin aflafar,
pan fydd llonydd y llynau
a llais y gwynt yn llesgau.
Y dŵr llesg tu draw i'r llain,
godre môr fel gwydr mirain,
yn sibrwd dan las wybren
a lliwio fel bo uwchben.
Cyfnod y dail a'r blodau,
adeg coed i ymdecau,
a deffro tŵf y dyffryn
gan haf, wedi'r gaeaf gwyn.
Mae'r afallen mewn gwenwisg,
a blodyn gwyn yw ei gwisg,
blodyn gwyn a deryn du
uwch ei ben yn chwibianu.
Tryfrithir y gwyrdd-dir gan
y blodau wyneblydan;
coch, gwyn a melyn yn myd
y gwair a'r ddeiliog weryd.
Mae'r ddôl yn urddol werddir
a'i hafrad dẃf, hyfryd hir;
trwy dyfiant hir daw afon
yn agen las ganol hon.
O'i gafell grin fe gyfyd
gloyn byw glewa'n y byd,
a'i aden fraith ysblenydd
yn sidan ar dân liw dydd.
Mae'r adar yn mro hudol
dirion deg llwyn drain a dôl,
a phob llais min dichlais dydd
yn ymuno'n y manwydd.
O'r cangau clywir cyngerdd
dyri a chân, chwiban a cherdd,
a diasbad caniad cog
yn y mynydd mewn mawnog.
Mae gloynod ar y blodau, adar
yn hudol eu lleisiau,
a llewych ar y lliwiau;
a all neb ond llawenhau?
Aberystwyth, 1899.