Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Elinor Rhys
| ← Y Postmon | Cerddi Edern a Cherddi Eraill gan John Glyn Davies |
Madonna y Gweithiwr → |
ELINOR RHYS
Cof byw genyf, a mineu yn rhyw bedair ar ddeg oed, yn sefyll gyda fy nhad a mam yn mhen drws drawing room, ac Edward Matthews tu mewn, ei law ar ei galon, yn bowio at y merched ifainc. Clywn fy nhad yn sibrwd wrth fy mam, "Isnt he a perfect old courtier." Gwelaf y munud yma Elinor Rees, y gantreg brydferth a fu farw yn ifanc ar drothwy gyrfa ddisglaer—gwelaf hi yn cochi at ei chlustiau pan eisteddodd Edward Matthews wrth ei hymyl, a dechrau ysmalio.J.G.D. ar Edward Matthews.
Elinor Rhys, o rosyn Mehefin,
O rosyn gwridog heb ledu yn llawn,
gwridaist pan welaist ti Gowrtiwr y Brenin,
hardd ei ymddygiad, bonheddig ei ddawn.
Ynteu yn eistedd wrth d'ymyl yn dirion,
O beth ddaeth drosot ti, rosyn mor goch?
Elinor Rhys, oni churodd dy galon?
Do. Oni fflamiodd dy waed yn dy foch?
Clywais i'r byw dy lais ifanc yn canu,
gantreg yn more godidog ei dawn.
Gwrido am fflachiad, ac yna difianu.
Byr oedd dy fywyd; ni welaist brydnawn.
Hanes amrantiad, o'r dechreu i'r diwedd,
a diwedd yr hanes, am byth ac am byth.
Efe i'r deheu, tydi i'r gogledd,
pob un iw siwme, am byth ac am byth.
Elinor Rhys, yn mhle'r wyt ti heno?
Byw yn fy nghof mae dy lendid o hyd.
Tristwch yw gofyn, pwy sydd yn dy gofio:
Byw wyt mewn chwedl, hen chwedl y byd.