Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Hen Forwr
| ← Cerdd y Gŵr Dierth | Cerddi Edern a Cherddi Eraill gan John Glyn Davies |
William Jones → |
"Bu hefyd rai heb fod coffa amdanynt, y rhai y darfu
amdanynt fel pe na buasent."
HEN FORWR
Hen forwr dinod yn y fynwent wledig,
fan hyn tan gudd, yn bell o sŵn y byd,
pwy wyr am dano? A oes rhywun debyg
o'i gofio yn yr ardal hon o hyd?
Ac eto bu yn grefftwr gyda'r gwyntoedd,
a gosod hwyliau, trin ei long ar fôr,
'all royals set,' i hwylio i borthladdoedd
Periw a Chile a San Salvadôr.
Fe ganodd hwn wrth yru'r iardiau i fyny,
a chodi angor yn y porthladd pell,
a'i enaid ifanc yn dyheu am Gymru;
ni wyddai hwn erioed am wlad oedd well.
Fe rowndiodd hwn yr Horn drwy stormydd gaea'
cynefin oedd â niwloedd Labrador,
a mochel gwres dan balmwydd Sourabaya,
a cherdded strydoedd poethion Singapore.
Fe garodd drwst y dociau mawr a'u trefydd,
Bwmbau a Frisco, Antwerp a Hong Kong;
ond dyma ef mewn llecyn digon llonydd,
yn forwr dinod, diddim heb ei long.