Cerddi Edern a Cherddi Eraill/I'r Llenor Mawr
| ← Judas Iscariot | Cerddi Edern a Cherddi Eraill gan John Glyn Davies |
I John Owen Williams → |
I'R LLENOR MAWR
Penaeth 'sgolheigdod, O Lenor y Byd,
meistr ar hyawdledd, cyfrenaist hyfrydwch;
eofn wrth ymladd dros ryddid o hyd,
rhyddid i'r meddwl oleuo tywyllwch.
Diystyr genyt, O Lenor y Byd,
farn a gwybodaeth y bobl gyffredin,
eto anghofiaist yn fyrbwyll o hyd,
gyfrol fawr natur, sydd iti yn gyfrin.
Ni fedraist unwaith erioed yn dy fyw
droi ei dalenau a deall ei hysgrif,
fel rhyw hen forwr ar fôr wrth ei lyw,
gwyliwr y wybren a'i throion aneirif.
Llais y tymhestloedd, ddeallaist ti hwn?
Trwst yr afonydd, beth ddywed hwn wrthyt?
Dacw hen labrwr yn grwm dan ei bwn,
deall ef ieithoedd na fu erioed genyt.
Gefaist ti iasau wrth weld glas yr yd
yn y gweirgloddiau ar haner Mehefin?
Welaist ti'r pabi, O Lenor y Byd,
yn y cae gwenith, fel labrwr cyffredin?
Fuost ti'n eistedd yn ngweithdy y crydd,
ynteu yn sôn am ogoniant yr eithin?
Welaist ti'r prydferth mewn pethau bob dydd,
pethau disylw a mwyaf cyffredin?
Fuost ti'n blentyn, O Lenor y Byd,
wedi gwirioni yn lân ar friallu;
serch at brydferthwch a bery o hyd,
Faint oedd dy ddysg, os gwn i, y pryd hyny?
Oes arnat hiraeth am bethau a fu,
hen bethau anwyl oedd wedi diflanu,
fel yr hen labrwr a'i gofion yn llu?
Ai mwy dy hiraeth? Paham diystyru?
Plant anwybodus ym yma o hyd,
ond medru teimlo i'r byw, os dealli.
Dyma iti'r galon, O Lenor y Byd,
cyffwrdd di â hono mewn unmodd os medri.