Neidio i'r cynnwys

Cerddi Edern a Cherddi Eraill/I Morgan Humphreys

Oddi ar Wicidestun
I John Owen Williams Cerddi Edern a Cherddi Eraill

gan John Glyn Davies

Rhos y Gareg—i Jennie Thomas

I MORGAN HUMPHREYS

Cloch gylfinir, crawc y frân
a'r glaw yn fân ar fynydd;
un gornchwiglen araf deg
yn hedeg dros mawnogydd;
a phwy sydd yn myfyrio draw
ond Morgan Humphreys yn y glaw.

Rhodio'r cei ar las y dydd
yn ddigon prudd dan gofio,
Dyma'r lle bu'r llongau gynt
yn disgwyl gwynt i hwylio.
A phwy sydd ar y cei'n ymdroi
ond Morgan Humphreys—Ship ahoy!

Cerbydau'r dref yn arllwys llwyth
o dylwyth y pleserau;
boddi sŵn y wylan wen,
rhoi pen ar fyfyrdodau.
Ni fydd neb yno yn ymdroi;
bydd Morgan Humphreys wedi ffoi.

Meh., 36.


Nodiadau

[golygu]