Neidio i'r cynnwys

Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Lôn pen yr allt

Oddi ar Wicidestun
Ynys Tangnefedd Cerddi Edern a Cherddi Eraill

gan John Glyn Davies

Y lôn adref

LÔN PEN YR ALLT

Y Lôn wrth ymyl pen yr allt
rhwng cloddiau preiffion,
lle clywir blas y gwynt yn hallt
o fryniau'r 'Werddon.

A seiyll enyd yn y gwynt
ar glawdd, a gweled
ryw smàc a sgwner ar eu hynt—
Ble'r an' nhw, tybed?

Mwg stemar beli yn nesu draw
o Ben Caergybi,
Rebecca, mi wn; bydd awr cyn daw
wrth Ynys Enlli.

Sŵn moroedd ar y traeth islaw
fel sẃn taranau,
a gweld y môr yn llyfn bell draw
o'r lle daw'r tonau.

A mynd ymlaen rhwng dwy res hir
o rug ac eithin,
a gweld y gwrid ar liwiau'r tir
tan haul gorllewin.

Lôn las yn dawel ar ei hyd,
heb fawr o dramwy,
yn mynd tu hwnt i ben draw byd—
Caersalem meudwy.

Tach., 40.


Nodiadau

[golygu]