Neidio i'r cynnwys

Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Lôn y gors

Oddi ar Wicidestun
Y lôn adref Cerddi Edern a Cherddi Eraill

gan John Glyn Davies

Y gors wyllt

LÔN Y GORS

Ar ochr ffordd, pwll Pen y Bryn
o dan hen goeden,
a changen isel dros y llyn
i hudo bachgen.

Pwll coediog tywyll, wedi ei doi
â changau deiliog,
a'r ochr draw ieir dŵr yn ffoi
i'r drysni brigog.

Troi i lôn y gors, fe saif o hyd
Tir Bedw yna;
mae'r Capten wedi hwylio byd
a chael angorfa.

Y rhes murddynod ar y chwith
yn mynd tan stormydd;
tai'r meirwon gynt, ac yn eu plith
tŷ Edward Dafydd.

Y llidiard goch a'r llynoedd glaw,.
a'r gors gyferbyn,
ac fel rhyw wyliwr mud fan draw
hen gaer Carn Fadryn.

Tach., 40.


Nodiadau

[golygu]