Neidio i'r cynnwys

Cerddi Edern a Cherddi Eraill/March y Mieri

Oddi ar Wicidestun
Tair Llong Cerddi Edern a Cherddi Eraill

gan John Glyn Davies

Fy Mrawd, a Glywi?

MARCH Y MIERI

Mae'r llwch yn drwch ar y drain
marw mae'r blodau mirain,
marw mae March y Mieri,
edwi'n awr mae mlodyn i,
a gorphwys ef bwys ei ben
eiddilaf ar y ddeilen.
Rhydd a gwyn, yr oedd gwaneg
echdoe a doe'n lledu'n deg,
heddyw mae'r blodau eiddil
gwae fi sôn am feirwon fil,
a blodau oedd heb ledu
yn awr ar y llawr yn llu.
Mor frau, 'chydig oriau gynt,
rhyfeddod yr haf oeddynt;
echdoe a doe, heddyw a'i des
a heno yw eu hanes.
Anian mae dy deganau
tlysaf, hyfiytaf mor frau.
Mynych ben ar lawenydd
dynion er eu sôn y sydd.
Wylo'r ym, mor aml eu rhif
a dagrau'n mhen pob digrif.

Aberystwyth. Awst, 1899.


Nodiadau

[golygu]