Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Melin Edern
| ← Carlo | Cerddi Edern a Cherddi Eraill gan John Glyn Davies |
Melin Edern ii → |
MELIN EDERN
Syn gweled y drws; mae clo ar ddrws y Felin,
ar ddiwrnod gwaith, wel dyma dro ar fyd.
Ni chlywaf un sẃn ond sŵn y ffrwd yn disgyn
wrth lithro dros ei meini'n haner mud.
Ni chlywaf wrth sefyllian
yr olwyn fawr yn stwyrian
na'r dŵr yn tywallt enyd bach fel cynt,
na'r pistyll main
o'r cafn, a'i sain
yn codi ac yn gostwng gyda'r gwynt.
Mewn myfyr fel hyn, mi welwn ddrws agored
a Rhisiart Roberts wrthi ei oreu glas;
roedd curiad y dẃr o'r olwyn fawr iw glywed,
a dwndwr trwm y meini'n grwnian bas.
Sion William cryf ei freichiau
yn llwytho'r blawd i'r troliau,
a'r mynd a'r dyfod drwy y drws heb frys,
a'r certmyn wrth
geffylau swrth,
ac ar bob chwa aroglau shag fel thus.
Lliniaru yr haul, troi adref y drol ola',
a'r olwyn fawr yn sefyll er ys tro,
a William yn mynd at orchwyl cyn swpera,
a Mistar yn cau'r drws; nid oedd rhaid clo.
A throi i'r tŷ yn siriol
a blawd ar wydrau spectol,
a mynd i'r llofft i newid dillad gwaith;
sŵn chwythu tân,
rhoi llian glân
ar fwrdd y gegin fawr at swper saith.
Mi greffais am hir ar ffenest ucha'r felin,
mi welwn Rhisiart Roberts wrth y fainc
yn craffu ar bren wrth heulwen y gorllewin,
pren derw wrth ei fodd, darn da heb gainc.
A marcio'r pren a'i lifio
ar draws, ar hyd, a'i bleinio,
a'i drin â chŷn a gordd yn gynil iawn,
ymgolli'n llwyr,
dal ati'n hwyr,
a'i gorph a'i enaid yn y gwaith yn llawn.
Mi welwn ar fyr ddau'n cerdded â'u genweiriau
i lawr yr afon, Mistar a myfi,
fy athraw oedd, a phrentis oeddwn inau,
ac ni bu athraw genyf mwy ei fri
A chanddo ryw athrylith
at fwrw hud a lledrith
ar ddŵr a glenydd ac ar docyn drain;
a'i lygad chwim,
nid oedd un dim
nas gwelai wrth rodio'r ffrwd â'i enwair fain,
Mi a'i gwelwn yn mynd a phedwar llanc i'w ganlyn
i fyny drwy y pentref ar brydnawn,
a dadwrdd mawr, genweiriau gwrachod ganddyn',
am Rosgor, a phob un yn hapus iawn.
Ac aros yn Mynhadlog
am awr o de a chrempog,
a chroeso serchog iawn gan John a'i wraig,
a John mewn hwyl
ar ddiwrnod gwyl,
a diwrnod mawr oedd diwrnod ar y graig.
A'r cerdded yn ôl, myfi a'r hen Felinydd,
yn hwyr y nos, a'r lleill o'n blaenau'n bell.
a gwrando pob gair, ac ynteu'n adrodd cywydd
gan Eben Fardd, neu Dewi Wyn,—pwy gwell?
A'r sêr i gyd yn t'wnu
a'r lleuad yn arianu,
a'r ffordd yn llwyd o'n blaenau rhwng dau glawdd
sŵn adar nos
draw yn y rhos,
gwirionwn ar farddoniaeth yn bur hawdd.
Mi welwn nos Sul bob un o deulu'r Felin
yn cychwyn am y capel, ond y ci,
a Mistar a'i wraig a William a'r ddwy Elin,
a John Mynhadlog hefyd a nyni.
A Charlo'n troi i orwedd
ac aros mewn amynedd
wrth ddrws y Felin nes doe pawb yn ôl,
i warchod tŷ
'n lle ymlid pry'
neu frân brofoclyd ar draws caeau'n ffôl.
Dywedyd Nos Dawch wrth ddrws y capel wedyn
wrth hwn a hon, 'n ôl anrhydeddu'r dydd,
John Williams yn troi tua chartref yn o sydyn,
a Mistar gyda Harri Jones y Crydd,
yn cerdded yn hamddenol
a sôn am wers ragorol
a gawsom yn y bregeth, rhywbeth byw.
Dau feirniad mwyn,
di-gas, di-gŵyn,
yn diolch o'u calonau am air Duw.
Syn gweled y drws ar ddiwrnod gwaith yn gauad,
heb drol o'i flaen yn disgwyl am y blawd,
heb sŵn ac heb sain, heb Carlo yn wárcheidwad,
heb Rhisiart Roberts yno; dyma ffawd.
A'r olwyn a'r llyn croni,
adfeilion mewn trueni,
heb gafn, heb ffrwd, heb ffiodiard; angeu yw.
Ond daw o hyd
peth o'r hen fyd
am enyd bychan eto i ail fyw.