Neidio i'r cynnwys

Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Rhos y Gareg

Oddi ar Wicidestun
Rhos y Gareg—i Jennie Thomas Cerddi Edern a Cherddi Eraill

gan John Glyn Davies

Mwyalchen yn Mis Ionawr

RHOS Y GAREG.

Pan ddaw glesni yn y llwyn
a gwanwyn cyn pen gaeaf,
clywi yn Rhos y Gareg gân
yr adar mân o'r mwynaf.

Jack y Nico, Asgell Fraith,
a Bronfraith a Mwyalchen,
Robin, Dryw a Llwyd y Gwrych,
mewn hwyl yn wych ar heulwen.

Ac yn siŵr bydd canu mawr
pan gwyd y wawr drwy'r goedwig;
Bronfraith, Mwyalch fore glas
yn canu bas yn bwysig.

Pan ddaw diwedd tymor cân
a'r adar mân heb nodyn,
clywi Robin tua'r drain
yn lleisio'n fain ar fonyn.

Wedi i'r adar dewi a'u cân,
a'r winllan yn o rynllyd,
tynu'r gadair at y tân
i wrando ar Sian dros enyd.

Mae parlwr newydd Sian i fod
yn barod i bererin,
i gael gwrando ar ddadwrdd llon
yn ffrydio'n anghyffredin.


Lle y cawn ymgolli'n llwyr
pan ddêl yr hwyr a'i gyfrin;
gweld yr haul tu draw i'r môr
yn lliwio'r holl orllewin.

Yma'n wir y mynwn fyw,
ie, uwchben unrhyw anrheg;
pob diddanwch gyda'r nos
a geir yn Rhos y Gareg.

Rhag., 39.


Nodiadau

[golygu]