Neidio i'r cynnwys

Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Teg Oedd yr Awel

Oddi ar Wicidestun
Môr Ardudwy Cerddi Edern a Cherddi Eraill

gan John Glyn Davies

TEG OEDD YR AWEL

Teg oedd yr awel a glas oedd y môr
a gwych oedd bod wrth y llyw,
a sŵn y dŵr wrth ei chwalu mlaen
yn esmwyth ar y clyw;
a'r holl hwyliau yn llawn
ac yn tynu yn iawn,
er ys talwm ar Fflat Huw Puw.

Sidan ei hwyliau, a gwynach na gwyn,
hi gerddai fel rhywbeth byw;
a chlychau arian oedd am ei mast,
ac aur oedd am ei llyw;
Nid wn i pwy saer coed
fedrai lunio erioed
long mor berffaith â Fflat Huw Puw.

Pan ddaw yr awr imi wrando ar sŵn
y moroedd ar draethell Duw,
a'r niwl yn cerdded i mewn o'r môr
nes cuddio tir y byw;
ni ddymunwn yn wir
ond cael gadael y tir
am ryw nefoedd ar Fflat Huw Puw.

1925


Nodiadau

[golygu]