Neidio i'r cynnwys

Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Wil Ardd Wen

Oddi ar Wicidestun
William Jones Cerddi Edern a Cherddi Eraill

gan John Glyn Davies

Y Postmon

WIL ARDD WEN

Daw haul ar fôr ag adgof mwyn
am ddyddiau hapus pell,
pan oedd bob awr yn fawr eu swyn;
ni fu erioed eu gwell.
Y dyddiau hapus draw yn Lleyn,
os ydynt oll ar ben,
mor fwyn yw cofio ambell un,
a chofio Wil Ardd Wen.

Roedd Wil yn fachgen bach di-nod,
a llongwr ar long goed,
a boddodd ef cyn iddo fod
yn un a'r bymtheg oed.
Addfwynder siriol oedd ei ran,
ni thynodd neb iw ben;
cynesa'r galon yn y man
wrth sôn am Wil Ardd Wen.

Fe ddyblai Wil Ardd Wen y swyn
yn mhob difyrwch iawn,
ymglymai ef a phobpeth mwyn,
a hyny oedd ei ddawn.
Mae awyr las a thywydd braf,
a'r hedydd bach uwchben,
a pheraroglau rhosus haf
yn gof am Wil Ardd Wen.

Rhag., 42.


Nodiadau

[golygu]