Cerddi Edern a Cherddi Eraill/William Jones
| ← Hen Forwr | Cerddi Edern a Cherddi Eraill gan John Glyn Davies |
Wil Ardd Wen → |
WILLIAM JONES
Wel, William Jones, ai tybed fod rhyw gymaint
o gof am danat heddyw yn y byd?
Ond eto y mae prentis gynt mewn henaint
a'i gofion oll yn gynes iawn o hyd.
Yn ôl barn byd, nid oedd dy swydd yn uchel,
pen gwas mewn warws, braidd o olwg byd,
ond brenin difalch oeddit er yn isel,
i brentis ifanc swil ar drothwy byd.
Yn frenin ar dy warws, ac yn siriol,
a chadair wag bob awr i Gymro glân;
o hil cefn gwlad hen ffasiwn ac yn dadol,
yn barod iawn am sgwrs o flaen y tân.
Felly y bu, a mineu'n llanc o brentis
dan feistriaid cyfiawn, pell iawn fel y lloer,
yn dianc ar bob cyfle gawn o'r offis
i'r warws i gael dadmer f'enaid oer.
Ystotyn barfgoch, praff, yn llawn cwrteisi,
mor anwyl oedd dy wyneb crwn a'th lais.
'R oedd dy Gymraeg yn twymno'r galon drwyddi,
yr oedd yn hafan haf rhag oerni Sais.
Y cyfoethogion geirwir, cydwybodol,
a gair da iddynt, heb un gair o gas;
hael oeddynt wrth achosion da dyngarol,
ond oer fel lledod oeddynt wrth y gwas.
Yn ddeddfol iawn, yn dda, yn llawn anrhydedd,
yn gyfiawn wrth bob gwas yn ôl eu barn;
ni wybu un o honynt yn y diwedd
nad oedd y deg gorchymyn ddim ond darn.
Pwy oeddynt hwy? Tylodion o ran calon;
cyfrifid eu rhinweddau oll mewn pres;
ceiniogau, sylltau, oll yn ddarnau oerion,
yn rhewi wrth amcanu gwneuthur lles.
Ond ti oedd biau'r galon lân oludog,
a gwariaist hono'n hael o ffrwd oedd lawn,
i dwymno peth ar enaid llanc anwydog.
Ni wybu un o'th feistriaid am y dawn.
Wel, William Jones, hyd atat hyn o eiriau,
a byddi byw yn hwy na pherchen pres.
Anadlaist fywyd i glai oer rhinweddau,
ac heb yn wybod, rhoddaist iddynt wres.