Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Y Lôn Goed
| ← Carn Fadryn | Cerddi Edern a Cherddi Eraill gan John Glyn Davies |
Ynys Dyfnallt → |
Y LÔN GOED
Prif ffordd urddasol, rhwng pileri ffawydd
a rhwng hen gyffion derw, hen Lôn Goed,
a'r cangau'n cau ar las yr awyr lonydd,
a gwyrddni i gyd yn esmwyth dan dy droed.
Rhyw gangell werdd lle nad oes goddef llais
na chablwr na therfysgwr na charn Sais.
Ffordd las ddidramwy, eto a'i fforddolion,
y llwynog a'r pry llwyd 'mherfeddion nos;
liw dydd cwningod yw ei phererinion,
ac adâr man, ac adar coed a rhos,
yn mynd a dyfod yn hamddenol iawn,
heb frys, yn ôl hen arfer gwlad y mawn.
Dryw bach aflonydd, gwibiog fel llygoden.
yn gweu yn môn y gwrych drwy'r drysni glas,
sŵn penill talcen slip llinosen felen,
dau nodyn siriol Titw Tomos Las.
Ac ysguthanod ar frig ucha'r coed
yn hel hen chwedlau'n daer fel ag erioed.
Ffordd fawr urddasol, i ba le y daw
pererin wrth ei chanlyn ar ei hyd?
Nid tref binaglog weli di ben draw,
cerbydau'n gyru, a holl fawredd byd,
ond tref sydd well, a mynd yn wysg dy drwyn,
tref eang wych comchwiglod gwlad y brwyn.