Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Y gors wyllt
| ← Lôn y gors | Cerddi Edern a Cherddi Eraill gan John Glyn Davies |
Cwmisdir → |
Y GORS WYLLT
Cors bantiog, llynoedd bychain bas,
a mân dwmpathau,
tir gwyllt o'r lôn i'r Ynys Las;
ffordd las i droliau.
Y gwter gul fu'n fawr ei bri,
gerllaw y llidiard,
lle byddai plant, pob un a'i gi,
yn hela ffwlbard.
Y ddraenen wen ar ben ei hun
ar glawdd y terfyn;
da gŵyr yr adar mân bob un
lle mae pob brigyn.
Lle anial lle bydd cwafrio cân
ar haul Mehefin,
lle bydd llai ofn ar adar mân
o fewn ei elin.
Cael gweld o dalcen tŷ'r hen daid
sigl-gwt yn gwegian,
a nico yn ymdrochi'n haid
wrth draeth llyn bychan.
A gwibio'n ôl i'r ddraenen wen
i ymbluo wedyn,
a disgyn dau a thri o'i phen
ar ysgall penwyn.
Cornchwiglen fraith ar ben ei hun
yn syn fyfyrio;
efallai'n craffu ar ei llun
mewn dŵr digyffro.
Ac yn y ffrwd yr ochr draw
creyr glas yn hela,
nes clywed cyfarth ci; cael braw
a ffoi oddiyna.
Tir gwyllt lle gallai plant ymdroi
yn ddiwarafun,
diffaethwch na thal fyth iw droi;
trysordy plentyn.
Y gongl wrth y lôn o dan
mieri mawrion,
a gair ymhlith y plant i'r fan
am fwyar duon.
Tir gwyllt di-fael na chododd fawr
ond drain ac eithin;
rhyw encil i gymuno awr
â rhywbeth cyfrin.
A gyda'r hwyr hen gofion gant
tu draw i'r llidiard,
a haner disgwyl gweld y plant
ar ôl y ffwlbard.
Mân adar wedi clwydo'n llu
mewn perth ddiogel,
pob un a'i ben o dan ei blu
yn cysgu'n dawel.
Dim sŵn i dori ar draws hynt brudd
meddyliau dwysion,
i darfu'r drychiolaethau sydd
yn rhodio'n fudion.