Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Y lôn adref
| ← Lôn pen yr allt | Cerddi Edern a Cherddi Eraill gan John Glyn Davies |
Lôn y gors → |
Y LÔN ADREF
Hen lôn bach gul yn mynd ymlaen
rhwng cloddiau gleision,
prif ffordd o longau Portinllaen
i dai bach gwynion.
Didramwy fel ped fai yn Sul
ar lôn bererin,
ac wrth y clawdd ôl pedol mul
a blawd o'r felin.
Ac ar ei hyd 'n ôl morio'n hir,
ae'r llongwr adref,
a'i sgwner newydd gyraedd tir,
a phawb i'w gartref.
A phêr i hwn ar ôl gwynt hallt
dros frig y tonau,
aroglau porphor pen yr allt
ar hyd y cloddiau.
Aroglau blodau eithin fyrdd
o'u melfed melyn;
lliw grug mawr clochog, coch a gwyrdd,
a sŵn y gwenyn.
Ar ôl yr anial llwyd, mor hawdd
oedd gweld y lliwiau,
coch, melyn, gwyn a glas ar glawdd,
a charu'r blodau.
A gweld penfelyn bach ar frig
heb gynyg symud,
ac asgell fraith yn hogi'i phig
ar frigyn enyd.
A gweld cwningod llonydd draw
yn codi clustiau
wrth glywed camrau, a chael braw
a ffoi iw tyllau.
Y lôn a welodd drwy ei hun
yn bell ar gefnfor;
mae'r sgwner wedi cyraedd Lleyn
a bwrw angor.