Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Ynys Dyfnallt
| ← Y Lôn Goed | Cerddi Edern a Cherddi Eraill gan John Glyn Davies |
Pen y Cefn → |
YNYS DYFNALLT
Rhyw haner nos ar haner haf
ar dyddyn corsiog
ar noswaith oleu tywydd braf
dros erwau brwynog.
Gwrid machlud wedi cilio'n llwyr
oddiar ffurfafen,
ac ymgrynhoi cysgodion hwyr.
mewn gwrych a choeden.
Y lliwiau gwelwon yn y llwyn
yn treiddio'r cysgod,
a'r blodau rhwng y tociau brwyn,
hawdd eu hadnabod.
Fel gwawr, a goleu pell y sêr
mor wan iw weled.
Gwynt melus y tegeirian pêr
drwy'r drws agored.
Gylfinau hirion yn un haid
uwchben yn gwibio,
a dal i lefain yn ddibaid
wrth droelli heibio.
Ac ysgyfarnog wrth y tŷ—
(gŵyr lle i mochel)
yn pori blewyn glas yn hy
mewn lle mor dawel.
Cornchwiglod wedi tewi a'u cwyn
a mynd i gysgu;
gylfinau hirion yn y brwyn
yn rhywle'n llechu.
Wel f'enaid, dyma iti daw
hyd lecyn corsiog;
dim sŵn ond bref oen bach bell draw
ar ôl ei famog