Cerddi Edern a Cherddi Eraill/Yr Heddychwr
| ← Fy Mrawd, a Glywi? | Cerddi Edern a Cherddi Eraill gan John Glyn Davies |
Ar ôl Darllen Hen Lythyrau Teuluol → |
YR HEDDYCHWR
Felly y safai'n hir ar Fynydd Rhiw,
i weld y teitiau'n troelli wrth fynd heibio,
a gweld yr awyr las yn newid lliw
wrth nesu at fachlud haul a dechreu gwrido.
A'r gwrid yn troi yn fflamgoch yn yr hwyr,
ac uwchben haul yn lliwio rhes cymylau,
a'u troi yn fryniau pell tan ledrith llwyr,
a llynoedd gleision tawel wrth eu traethau.
Y gwrid yn dyner ar ben Mynydd Rhiw,
yn rhimyn coch ar ysgwydd Mynydd Enlli,
a'r hen fynachlog dawel dan y lliw,
a'r holl ogoniant yn gwefreiddio drwyddi.
Tangnefedd llwyr, taw ar helyntion byd,
a hen fynachod yn ail fyw yn dawel;
yn ddau a dau, ac yn ymswyno'n fud
wrth glywed galw seinber Cloch yr Angel. (Angelus)
Aros nes gweld goleuni yn y tai,
a phared Mynydd Enlli yn tywyllu;
gwrid ochr draw, heb lewych, oni bai
goleuni fflachiog llachar y goleudy.
Troi at y dwyrain, gweld copâu ar dân,
tai gwynion dan liw gwin y cymun hefyd,
a hwnw'n bwrw hud yr Ysbryd Glân
ar werin Lleyn, a dyna wyrth yr Ysbryd.
Cadwodd ar Fynydd Rhiw ar hyd ei oes,
a gwelai werin Lleyn ar hyd y gwledydd.
Aeth a'r tangnefedd drwy aml Fwlch y Groes,
a daeth tangnefedd ato i fyw yn grefydd.